Alfeoli

Oddi ar Wicipedia
Alfeoli
Enghraifft o'r canlynolstrwythur anatomegol Edit this on Wikidata
Mathalveolus Edit this on Wikidata
Label brodorolalveolus pulmonis Edit this on Wikidata
Rhan olung parenchyma Edit this on Wikidata
Yn cynnwyspneumocyte Edit this on Wikidata
Enw brodorolalveolus pulmonis Edit this on Wikidata
Radiws175 ±75 micrometr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
diagram alfeoli

Arwyneb resbiradol yr ysgyfaint yw'r alfeoli. Mae capilarïau gwaed yn gorchuddio arwyneb yr alfeoli. Caiff hefyd ei alw'n goden aer. Mae carbon deuocsid yn tryledu ar draws furiau'r alfeoli. Mae'r ocsigen yn tryledu o aer yr alfeoli i mewn i'r gwaed tra bod carbon deuocsid yn tryledu o'r gwaed i mewn i'r aer yn yr alfeoli.

Mae alfeoli wedi ei addasu ar gyfer cyfnewid nwyol drwy gael cyflenwad gwaed cyfoethog sy'n galluogi mwy o gyfnewid nwyol i ddigwydd. Er mwyn cynyddu cyfnewid nwyol mae ganddo arwynebedd arwyneb mawr. Yn ogystal, mae ei furiau tenau yn hwyluso'r broses o gyfnewid nwyol gan ei fod yn galluogi nwyon dryledu drwy'r muriau'n gyflymach. Mae leinin llaith yr alfeoli yn hydoddi ocsigen er mwyn iddo allu tryledu drwyddo.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "‎Adolygu - Revision". App Store (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-06-28. no-break space character in |website= at position 4 (help)