Resbiradaeth cellog

Oddi ar Wicipedia
Resbiradaeth cellog
Enghraifft o'r canlynolproses fiolegol Edit this on Wikidata
Mathenergy derivation by oxidation of organic compounds Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Diagram yn dangos y broses o respirau erobig
Hunanborthwyr: Planhigion, algae a sawl math o facteria
Cyfansoddion organig
Heterotroffiaid: Anifeiliaid, ffwng a sawl math o facteria
Resbiradu erobig (saethau coch) ydy'r prif ddull y mae ffwng a phlanhigion yn cael eu hynni ar ffurf cyfansoddion organig a grewyd yn wreiddiol drwy ffotosynthesis (saeth werdd).

Term mewn bioleg ydy resbiradaeth cellog (neu'n syml: anadlu o fewn celloedd) sy'n disgrifio'r prosesau oddi fewn i gelloedd planhigyn ble mae carbon deuocsid yn cael ei dynnu i mewn i'w celloedd ac ocsigen yn cael ei waredu fel gwastraff. Mae'r broses yma oddi fewn yr organeb (yn y dail, fel arfer) yn trosi (neu newid) ynni biocemegol o faeth (nutrients) i adenosine triphosphate (ATP).[1] Gelwir yr adweithiau hyn yn adweithiau catabolig a'u heffaith yw torri i lawr y moleciwlau mawr yn foleciwlau llai gan ryddhau ynni yn y broses.

Mae resbiradu cellog, felly, yn un o'r prif ddulliau mae'r gell yn cael ei ynni i wneud ei waith.

Ymlith y prif faethau sy'n cael ei ddefnyddio gan anifeiliaid a phlanhigion y mae: siwgwr ac asid amino. Mae'r ynni sy'n cael ei storio o fewn yr ATP yna'n cael ei ddefnyddio i yrru'r prosesau sydd angen ynni:biosynthesis, symudiad y celloedd neu yrru moleciwlau o un gell i'r llall drwy'r bilen (membrane).

Resbiradaeth erobig[golygu | golygu cod]

Hanfod resbiradaeth erobig ydy ocsigen. O'i dderbyn, gall y gell greu ATP. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i'r pyrwfad [2] (pyruvate) fynd i fewn i'r mitocondrin er mwyn cael ei ocsideiddio'n llawn gan "Gylchred Krebs" (sy'n ymwneud ag asid sitrig. Cynhyrchir ynni gan y broses hon ar ffurf ATP gan substrate-level phosphorylation, NADH a FADH2

Yr adwaith yn syml: C6H12O6 (s) + 6 O2 (g) → 6 CO2 (g) + 6 H2O (l) + heat
ΔG = -2880 kJ per mole of C6H12O6

Mae'r ΔG negyddol yn nodi y gall yr adwaith ddigwydd ar amrantiad.

Cell eukaryote nodweddiadol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Bailey, Regina. "Cellular Respiration". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-05. Cyrchwyd 2013-01-06.
  2. Geiriadur yr Academi; tudalen P:1106.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]