Calon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mae'r saethau gwyn yn dangos llif y gwaed.

Cyhyryn yw'r galon sy'n gorwedd ychydig i'r chwith o linell ganol y corff. Dyma'r cyhyr sy'n pwmpio'r gwaed ar hyd y cylchrediad fasgwlar drwy gyfrwng yr hyn a elwir yn System gylchredol y corff. Ceir ochr dde ac ochr chwith, y ddau yn cynnwys atriwm a fentrigl. Mae llawer o dermau meddygol sy'n ymwneud â'r galon yn defnyddio'r term cardiac (e.e. cardioleg) sy'n golygu "astudiaeth sy'n ymwneud â'r galon" ac mae'r gair yn tarddu o'r gair Groeg καρδιά, cardia, sef "calon".

Ultrasound o'r galon.

Mae calon pob fertibrat wedi ei wneud allan o'r cyhyr arbennig ac unigryw hwn, sef y "cyhyr cardiac" ac mae'n gweithredu ar ei liwt ei hun, gan bwmpio tua 2.5 biliwn o weithiau mewn oes o 66 mlynedd. Y curiad arferol a chyfartalog ydy 72 curiad y funud ac mae calon merch yn pwyso rhwng 250 gram a 300 gram a rhwng 300 a 350 gram mewn dyn.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Kumar, Abbas, Fausto: Robbins and Cotran Pathologic Basis of Disease, 7ed argraffiad, tud. 556
Skull template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am calon
yn Wiciadur.