Sir Gaerfyrddin (etholaeth seneddol)
| Enghraifft o: | Etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig |
|---|---|
| Daeth i ben | 18 Tachwedd 1885 |
| Dechrau/Sefydlu | 8 Rhagfyr 1832 |
| Rhagflaenydd | Carmarthenshire |
| Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Rhanbarth | Cymru |
| Dynodwyr | |
Roedd Sir Gaerfyrddin yn etholaeth seneddol i Dŷ'r Cyffredin Senedd y Deyrnas Unedig o 1542 hyd ei ddiddymu ym 1885. Roedd y sir yn dychwelyd un Aelod Seneddol hyd at 1832 pan ychwanegwyd ail gynrychiolydd.
Ym 1885 rhannwyd yr etholaeth yn ddwy sedd un aelod sef, Gorllewin Caerfyrddin a Dwyrain Caerfyrddin.
Un o etholiadau mwyaf nodedig yr etholaeth oedd Lecsiwn Fawr 1802 lle fu Syr James Hamlyn Williams yn sefyll ar ran y Torïaid a William Paxton ar ran y Chwigiaid. Gwarrwyd ffortiwn gan y naill ochor a'r llall i geisio sicrhau'r fuddugoliaeth[1]. Amcangyfrifir bod Paxton wedi gwario £15,690 ar golli'r frwydr (gwerth tua £15.5 miliwn, yn ôl cymhariaeth cyflogau, yn 2018).[2] Yn ôl traddodiad y fro adeiladwyd Tŵr Paxton ger Llanarthne fel prawf bod digonedd o arian ar ôl gan Paxton er gwaetha'r maint a afradwyd ar y Lecsiwn Fawr.
Aelodau Seneddol Cynnar
[golygu | golygu cod]
| Blwyddyn | Aelod |
|---|---|
| 1542-1545 | Ansicr |
| 1545 | Richard Devereux |
| 1548 | Syr John Perrott |
| 1553 | Henry Jones |
| 1555 | Richard Jones |
| 1558 | Syr Thomas Jones |
| 1559 | Richard Jones |
| 1563 | Syr Henry Jones |
| 1572 | John Vaughan |
| 1576 | Walter Vaughan |
| 1584 | Walter Rice |
| 1586 | Syr Thomas Jones |
| 1588 | Herbert Croft |
| 1593 | Walter Vaughan |
| 1597 | Syr Thomas Jones |
| 1601 | John Vaughan |
| 1604 | Syr Robert Mansell |
| 1620 | Syr John Vaughan |
| 1624 | Richard Vaughan |
Cynrychiolaeth Seneddol yng nghyfnod Rhyfel Cartref Lloegr
[golygu | golygu cod]1629–1640 Dim Senedd
1640 Henry Vaughan (ar ran y Goron). Ym mis Chwefror cafodd Vaughan ei ddiarddel a bu'r sedd yn wag
1646 John Lloyd. Cafodd ei ddienyddio ym 1648 fel rhan o Garthiad Thomas Pride a bu'r sedd yn wag
1653 Doedd Sir Gaerfyrddin ddim yn cael ei gynrychioli yn senedd Barebones
Bu gan Sir Gaerfyrddin dau aelod yn Senedd Gyntaf y Protectoriaeth
1654 John Claypole a Rowland Dawkins
1656 Rowland Dawkins a Robert Atkyns
Doedd Sir Gaerfyrddin ddim yn cael ei gynrychioli yn Senedd y Rymp
1659 Thomas Hughes
1660 John Lloyd
1661 Yr Arglwydd Vaughan
Aelodau Seneddol hyd Ddeddf Diwygio 1832
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Aelod | Plaid |
|---|---|---|
| 1668 | Syr Henry Vaughan | |
| 1677 | Altham Vaughan | |
| 1679 | Yr Arglwydd Vaughan | |
| 1685 | Yr Arglwydd Vaughan | |
| 1689 | Syr Rice Rudd | |
| 1701 | Griffith Rice | |
| 1710 | Syr Thomas Powell | |
| 1715 | Ardalydd Winchester | Whig |
| 1717 | Syr Thomas Stepney | |
| 1722 | Edward Rice | |
| 1724 | Syr Nicholas Williams | |
| 1745 | John Vaughan | |
| 1754 | George Rice | |
| 1779 | John Vaughan | |
| 1784 | Syr William Mansel | |
| 1790 | Yr Anrh George Talbot Rice | Tori |
| 1793 | Syr James Hamlyn | |
| 1802 | James Hamlyn Williams | |
| 1806 | Syr William Paxton | |
| 1807 | Yr Arglwydd Robert Seymour | Tori |
| 1820 | Yr Anrh. George Rice Rice-Trevor | Tori |
| 1831 | Syr James Hamlyn-Williams | Whig |
Aelodau Seneddol 1832-1885
[golygu | golygu cod]| Etholiad | Aelod cyntaf | Plaid cyntaf | Ail aelod | Ail blaid | ||
|---|---|---|---|---|---|---|
| 1832 | Yr Anrh. George Rice Rice-Trevor | Ceidwadol | Edward Hamlyn Adams | Whig | ||
| 1835 | Syr James Hamlyn-Williams | Whig | ||||
| 1837 | John Jones | ceidwadol | ||||
| 1842 is-etholiad | David Arthur Saunders Davies | Ceidwadol | ||||
| 1852 is-etholiad | David Jones (hyd 1868) | Ceidwadol | ||||
| 1857 is-etholiad | David Pugh | Rhyddfrydol | ||||
| 1868 | Edward John Sartoris | Rhyddfrydol | John Jones | Ceidwadol | ||
| 1874 | Frederick Campbell, Is-iarll Emlyn | Ceidwadol | ||||
| 1880 | Walter Rice Howell Powell | Rhyddfrydol | ||||
Canlyniadau etholiad o 1832
[golygu | golygu cod]Etholiadau yn y 1830au
[golygu | golygu cod](Ymgeiswyr efo * wedi eu hethol)

| Etholiad cyffredinol 1832: Etholaeth Sir Gaerfyrddin | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
| Ceidwadwyr | Yr Anrh George Rice Rice Trevor* | 1,853 | 37.1 | ||
| Whig | Edward Hamlyn Adams* | 1,638 | 32.8 | ||
| Whig | Syr James Hamlyn-Williams | 1,504 | 30.1 | ||
| Etholiad cyffredinol 1835: Etholaeth Sir Gaerfyrddin | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
| Ceidwadwyr | Yr Anrh George Rice Rice Trevor* | 2,204 | 36.8 | ||
| Rhyddfrydol | Syr James Hamlyn-Williams* | 1,939 | 32.3 | ||
| Ceidwadwyr | John Jones | 1,851 | 30.9 | ||
| Etholiad cyffredinol 1837: Etholaeth Sir Gaerfyrddin | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
| Ceidwadwyr | Yr Anrh George Rice Rice Trevor* | 2,486 | 36.9 | ||
| Ceidwadwyr | * John Jones* | 2,173 | 32.3 | ||
| Rhyddfrydol | Syr James Hamlyn-Williams | 2,068 | 30.8 | ||
Etholiadau diwrthwynebiad 1841-1865
[golygu | golygu cod]Cafodd George Rice Rice Davies a John Jones eu hethol yn ddiwrthwynebiad yn Etholiad cyffredinol 1841 ar ran y Ceidwadwyr. Bu farw John Jones ym 1842 ac etholwyd David Arthur Saunders Davies yn ddiwrthwynebiad i'w olynu ar ran y Ceidwadwyr.
Cafodd George Rice Rice Davies a David Arthur Saunders Davies eu hethol yn ddiwrthwynebiad yn Etholiad cyffredinol 1847 ar ran y Ceidwadwyr. Daeth Rice Trevor yn Arglwydd Dinefwr a'i ddyrchafu i Dy'r Arglwyddi ym 1852. Fe'i olynwyd yn ddiwrthwynebiad gan David Jones (Ceidwadwr).
Cafodd David Arthur Saunders Davies a David Jones eu hethol yn ddiwrthwynebiad yn Etholiad cyffredinol 1847 ac eto ym 1852. Bu Davies farw ym 1857 ac etholwyd David Pugh i'w olynu yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol.
Etholwyd David Pugh a David Jones yn ddiwrthwynebiad yn Etholiad cyffredinol 1859 ac eto ym 1865.
Etholiadau 1868-1880
[golygu | golygu cod](Ymgeiswyr efo * wedi eu hethol)
| Etholiad cyffredinol 1868: Etholaeth Sir Gaerfyrddin | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
| Rhyddfrydol | Edward John Sartoris* | 3,280 | 31.6 | ||
| Ceidwadwyr | John Jones* | 2,942 | 28.3 | ||
| Ceidwadwyr | H Lavellin-Pukley | 2,828 | 27.2 | ||
| Annibynnol | David Pugh | 1,340 | 12.9 | ||

| Etholiad cyffredinol 1874: Etholaeth Sir Gaerfyrddin | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
| Ceidwadwyr | Frederick Campbell Is-iarll Emlyn* | 3,389 | 29.8 | ||
| Ceidwadwyr | John Jones* | 3,261 | 27.7 | ||
| Rhyddfrydol | Walter Rice Howell Powell | 2,799 | 23.8 | ||
| Rhyddfrydol | Edward John Sartoris | 2,331 | 19.7 | ||
| Etholiad cyffredinol 1880: Etholaeth Sir Gaerfyrddin | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
| Rhyddfrydol | Walter Rice Howell Powell* | 4,101 | 41.7 | ||
| Ceidwadwyr | Frederick Campbell, Is-iarll Emlyn* | 3,030 | 30.8 | ||
| Ceidwadwyr | John Jones | 2,712 | 27.5 | ||
Diddymwyd y sedd ar gyfer etholiad 1885 a'i olynu gan etholaethau Gorllewin Caerfyrddin a Dwyrain Caerfyrddin.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Bwrdeistref Caerfyrddin (etholaeth seneddol)
- Dwyrain Caerfyrddin (etholaeth seneddol)
- Gorllewin Caerfyrddin (etholaeth seneddol)
- Caerfyrddin (etholaeth seneddol)
- Llanelli (etholaeth seneddol)
- Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr (etholaeth seneddol)
- Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro (etholaeth seneddol)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ BBC - De Orllewin - Y Lecsiwn Fawr; adalwyd 7 Chwefror 2014
- ↑ Purchasing Power of British Pounds from 1245 to Present; adalwyd 7 Chwefror 2014
- ↑ "Etholiad Sir Gaerfyrddin", Seren Cymru, 4 Rhagfyr 1868; adalwyd 14 Chwefror 2014