Thomas Stepney

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thomas Stepney
Ganwyd c. 1668 Edit this on Wikidata
Bu farw 1745 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Gwleidydd, tirfeddiannwr Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o Senedd Prydain Fawr Edit this on Wikidata

Roedd Syr Thomas Stepney, 5ed Barwnig (tua 1668 – tua 1745) yn dirfeddiannwr a gwleidydd Cymreig a fu'n eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin fel Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin o 1717 i 1722.

Thomas oedd unig fab Syr John Stepney, 4ydd Barwnig Prendergast, Sir Benfro a'i wraig Justina Van Dyck, merch Syr Anthony Van Dyck, yr arlunydd. Etifeddodd y farwnigaeth ar farwolaeth ei dad ym 1681. Ym 1691, priododd Margaret Vaughan, merch John Vaughan o Lanelli. [1] Roedd hi'n gyd etifeddes cangen o deulu Vaughan y Gelli Aur, a fu'n ASau Sir Gaerfyrddin yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg. Gwasanaethodd Thomas fel Uchel Siryf Sir Benfro yn y flwyddyn 1696 i 1697. [2] Ym 1714 penderfynodd adeiladu Tŷ Llanelli, tŷ trefol yn Llanelli. [3]

Dychwelwyd Stepney yn ddiwrthwynebiad fel Aelod Seneddol dros Sir Gaerfyrddin mewn isetholiad ar 23 Mai 1717. Nid safodd eto yn etholiad cyffredinol 1722 nac wedi hynny.

Bu farw Stepney ar ddechrau 1745 a chladdwyd ef yn Llanelli ar 19 Ionawr 1745 yn 76 mlwydd oed. Gadawodd fab, John, a'i holynodd fel barwnig, a dwy ferch.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Charles Powlett
Aelod Seneddol

Sir Gaerfyrddin
17171722

Olynydd:
Edward Rice