David Pugh (AS Caerfyrddin)
David Pugh | |
---|---|
Ganwyd | 1806 Llandeilo |
Bu farw | 12 Gorffennaf 1890 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr, bargyfreithiwr |
Swydd | Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | David Heron Pugh |
Mam | Elizabeth Beynon |
Roedd David Pugh (1806 – 12 Gorffennaf 1890) yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin a Dwyrain Caerfyrddin.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd David Pugh ym Manorafon, plasty ger Llandeilo, yn blentyn hynaf o dri i'r Cyrnol David Heron Pugh ac Elizabeth Benyon ei wraig.[1]
Cafodd ei addysgu yn ysgol Rugby a Choleg Balliol, Rhydychen, lle raddiodd BA ym 1828.
Roedd yn ddibriod.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cafodd Pugh ei alw i'r Bar ym 1837 yn y Deml Ganol a bu yn ymarfer y gyfraith yn achlysurol ar Gylchdaith Gogledd Lloegr. O 1843 i 1852 yr oedd yn gadeirydd Llysoedd Chwarter Caerfyrddin.
Ei brif waith oedd fel meistr ei ystâd o tua 10,000 erw a'r dyletswyddau cyhoeddus y disgwyliwyd i sgweier o'i radd eu cyflawni yn y cyfnod. Fel amaethwr yr oedd yn cael ei hystyried yn arbenigwr ar fridio gwartheg byrgorn.[2]
Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin yn y flwyddyn 1874.
Fe fu yn gapten yng nghatrawd milisia The Llandeilo Riffles[3]
Gyrfa Wleidyddol
[golygu | golygu cod]Ar farwolaeth David Saunders Davies, un o Aelodau Seneddol Ceidwadol Sir Gaerfyrddin ym 1857 etholwyd David Pugh i'w olynu yn ddiwrthwynebiad. Roedd ei ymrwymiad gwleidyddol ar adeg yr isetholiad yn amwys[4]. Mae'n cael ei gyfrif fel aelod Rhyddfrydol, gan amlaf, er ei fod wedi derbyn sêl bendith y bonheddwyr Ceidwadol i'w ethol ac yn cael ei ddisgrifio fel un "annibynnol ei farn" yn ei gynhadledd dewis. Cafodd ei ailethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau Cyffredinol 1859 a 1865. Bu cystadleuaeth yn Sir Gaerfyrddin yn etholiad Cyffredinol 1868 a safodd Pugh fel ymgeisydd Annibynnol gan ddod ar waelod y pôl. Gan mae'r ymgeisydd Rhyddfrydol daeth i'r brig, mae'n bosib y byddai Pugh wedi cadw ei sedd pe bai wedi sefyll dros yr achos Rhyddfrydol.
(Ymgeiswyr efo * wedi eu hethol)
Etholiad cyffredinol 1868: Etholaeth Sir Gaerfyrddin[5] | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Edward John Sartoris* | 3,280 | 31.6 | ||
Ceidwadwyr | John Jones* | 2,942 | 28.3 | ||
Ceidwadwyr | H Lavellin-Pukley | 2,828 | 27.2 | ||
Annibynnol | David Pugh | 1,340 | 12.9 |
Ail afaelodd yn ei ddiddordebau seneddol ym 1884. Pan geisiodd Tŷ'r Arglwyddi rhwystro cynlluniau William Gladstone i ehangu'r bleidlais cafwyd protest mawr yng Nghaerfyrddin i gefnogi'r Prif Weinidog, ymysg y sawl oedd yn cefnogi'r brotest oedd David Pugh.
Cafodd Pugh ei ddewis fel ymgeisydd y Rhyddfrydwyr yn etholaeth newydd Dwyrain Caerfyrddin[6] gan ennill y sedd gyda mwyafrif mawr dros ei wrthwynebydd Ceidwadol.
Etholiad Cyffredinol 1885 Dwyrain Caerfyrddin
Nifer yr etholwyr 8,669 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | David Pugh | 4,487 | 67.9 | ||
Ceidwadwyr | Syr Mowbray Lloyd | 2,122 | 32.1 | ||
Mwyafrif | 2,365 | 35.8 | |||
Y nifer a bleidleisiodd | 76.2 |
Cafodd ei ailethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiad 1886. Penderfynodd beidio sefyll yn etholiad 1890, ac y bu farw ychydig ddyddiau cyn yr etholiad.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw David Pugh yn yr Hotel Metropol yn Llundain ar 12fed Gorffennaf 1890 yn 84 mlwydd oed, claddwyd ei weddillion ym mynwent Llandeilo[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Annals and antiquities of the counties and county families of Wales [1]; adalwyd 16 Chwefror 2015
- ↑ "The Smithfield Club Show", Aberdare Times, 12 Rhagfyr 1885; adalwyd 16 Chwefror 2015
- ↑ "The Death of Mr David Pugh MP"; Cardiff Times, 19 Gorffennaf 1890; adalwyd 16 Chwefror 2015
- ↑ "Carmarthenshire Election", Welshman, 19 Mehefin 1857; adalwyd 16 Chwefror 2015
- ↑ "Etholiad Sir Gaerfyrddin", Seren Cymru, 4 Rhagfyr 1868; adalwyd 14 Chwefror 2014
- ↑ "Liberal Meeting at Carmarthen", Cardiff Times, 24 Hydref 1885; adalwyd 16 Chwefror 2015
- ↑ "Marwolaeth Mr D Pugh AS", Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser, 18 Gorffennaf 1890; adalwyd 16 Chwefror 2015