John Jones (AS Sir Gaerfyrddin)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Am bobl eraill o'r un enw, gweler John Jones (tudalen wahaniaethu).
John Jones
Ganwyd 11 Rhagfyr 1812 Edit this on Wikidata
Llanymddyfri Edit this on Wikidata
Bu farw 28 Chwefror 1886 Edit this on Wikidata (73 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth banciwr, Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata

Roedd John Jones (11 Rhagfyr 181526 Chwefror 1886) yn wleidydd Ceidwadol Cymreig ac yn Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

John oedd mab ieuengaf John Jones, Blaenos, Llanymddyfri a Mary merch William Jones Ystrad Walter, Caerfyrddin. Roedd brawd John, David yn rhagflaenydd iddo fel Cynrychiolydd Ceidwadol Sir Gaerfyrddin.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol yr Amwythig

Priododd ei gyfnither, Anne Thomas ferch David Thomas Wilfield, Sir Faesyfed.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei alw i'r bar yn y Deml Ganol ym 1839 ond ni fu'n ymarfer fel bargyfreithiwr. Gwasanaethodd fel Is Raglaw Sir Gaerfyrddin ac Uchel Siryf y Sir ym 1854

Sefydlodd ei daid, David Jones, banc yn Llanymddyfri ym 1799, ac ar ei farwolaeth ym 1839 trosglwyddwyd y busnes i John a'i frodyr hyn David a William. Ehangodd y brodyr y banc o dan yr enw David Jones a'i Gwmni.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Gaerfyrddin o 1868 hyd 1880 pan gollodd y Ceidwadwyr un o ddwy sedd yr etholaeth i'r Rhyddfrydwr Walter Rice Howell Powell[2]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn sydyn wrth gerdded y caeau ger ei gartref yn 73 mlwydd oed [3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
David Jones
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin
18681880
Olynydd:
Walter Rice Howell Powell