Walter Rice Howell Powell

Oddi ar Wicipedia
Walter Rice Howell Powell
Ganwyd1819 Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mehefin 1889 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd Walter Rice Howell Powell (4 Ebrill 181926 Mehefin 1889) yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol yn Sir Gaerfyrddin o 1880 i 1889.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Roedd Powell yn fab i Walter Rice Howell Powell, ystâd Maesgwynne, Llanboidy a'i wraig Mary (née Powell). Cafodd ei addysg gan diwtoriaid preifat ac yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen.

Bu'n briod ddwywaith: ym 1840 priododd Mary Anne, merch Henry Skrine, Warleigh Manor, Gwlad yr Haf, a bu iddynt un fab ac un ferch, bu farw Walter y mab yn 12 mlwydd oed ym 1855[1]. Ym 1851 Priododd Catherine Anne merch Grismond Phillips Cwmgwili a bu iddynt un ferch.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ffynnon Goffa Powell, Llanboidy - geograph.org.uk - 602813

Ar farwolaeth ei dad ym 1834 etifeddodd Powell Maesgwynne ystâd o 3,468 erw (14.03 km2) ym mhlwyf Llanboidy.

O oedran cynnar, cymerodd Powell ddiddordeb mawr mewn hela, fe wariodd lawer o'i amser fel myfyriwr yn Rhydychen yn hela yn hytrach nag astudio a bu am 50 mlynedd yn feistr cŵn helfa Maesgwynne. Bu hefyd yn ymddiddori mewn rasio ceffylau gan adeiladu cwrs rasio ar ei dir a sefydlu rasys ffos a pherth flynyddol a oedd yn rhoi hawl i'r enillydd rasio yn y Grand National yn Aintree [3].

Bu'n hael yn ei gymorth i wella adnoddau i drigolion ardal Llanboidy gan dalu am adeiladu ysgol newydd, neuadd farchnad a gwesty a chyfrannodd at adfer Eglwys y Plwyf. Roedd wedi dechrau cynllunio system cyflenwi dŵr i'r pentref ychydig cyn ei farwolaeth, sicrhaodd ei weddw bod y cynlluniau yn cael eu cyflawni a bod ffynnon goffa i Powell yn cael ei gosod yn y pentref i nodi ei gymwynas olaf i'r Llan[4].

Gyrfa gyhoeddus[golygu | golygu cod]

O gyrraedd oedran oedolyn ym 1840 bu Powell yn eistedd fel Ynad Heddwch ar fainc Sir Gaerfyrddin. Ym 1849 fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin[5], bu hefyd yn gwasanaethu fel dirprwy Raglaw Sir Gaerfyrddin a dirprwy Raglaw Sir Benfro.

Bu Powell yn gefnogol i'r Blaid Geidwadol am gyfnod, yn isetholiad 1852 fe gyflwynodd y cynnig ffurfiol bod David Jones, Pantglas yr ymgeisydd Ceidwadol yn cael ei ethol.[6]; ond erbyn isetholiad 1857 yr oedd yn cynnig enw David Pugh fel ymgeisydd annibynnol [7]. Pan benderfynodd Pugh sefyll fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholiad cyffredinol 1868, roedd yn parhau i dderbyn cefnogaeth Powell.[8]

Safodd Powell yn aflwyddiannus fel ymgeisydd Rhyddfrydol Sir Gaerfyrddin yn etholiad cyffredinol 1874 gan ddod yn drydedd allan o bedwar ymgeisydd; safodd eto yn etholiad cyffredinol 1880 gan ddod i frig y pôl. Diddymwyd etholaeth Caerfyrddin ym 1885 gan rannu'r gynrychiolaeth rhwng dwy etholaeth newydd yn dychwelyd un aelod yr un: Dwyrain Caerfyrddin a Gorllewin Caerfyrddin. Cafodd Phillips ei gynnig i fod yn ymgeisydd Rhyddfrydol yn y ddwy sedd ond dewisodd dderbyn ymgeisyddiaeth y Gorllewin, gan lwyddo i gipio'r sedd mwyn brwydr yn erbyn ei gyn cyd aelod dros y sir yr Is-iarll Emlyn. Cadwodd y sedd yn etholiad 1886 ond bu farw cyn diwedd y tymor seneddol.

O ystyried ei safle cymdeithasol roedd agwedd wleidyddol Phillips yn eithaf radical i sgweier; roedd yn cefnogi'r bleidlais i ferched, yn cefnogi datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, yn cefnogi rhoi sicrwydd tenantiaeth i amaethwyr ac yn cefnogi rhoi telerau gwaith a chyflogau teg i weision fferm; yn wir roedd rhai o agweddau Phillips mor wrthyn i rai o'i gyd sgweieriaid a chefnogwyr y Ceidwadwyr fel eu bod yn ei gyhuddo o fod yn "Gomiwnyddol" [9].

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Cofeb Powell gan William Goscombe John yn ei safle gwreiddiol (ffotograff gan John Thomas)

Bu farw yn ei gartref ym Maesgwynne yn 71 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion yng nghladdgell y teulu yn Eglwys Sant Brynach, Llanboidy[10]. Adeiladwyd cofeb i Powell gan William Goscombe John a osodwyd yn wreiddiol y tu allan i Eglwys Sant Brynach ond sydd bellach wedi symud i mewn i'r adeilad.[11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "FamilyNotices - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser". Joseph Potter. 1855-06-15. Cyrchwyd 2015-07-04.
  2. "Welsh Members of Parliament - South Wales Echo". Jones & Son. 1885-12-12. Cyrchwyd 2015-07-04.
  3. Walesonline 6 Medi 2012 Unsung radical 19th century squire remembered in new book [1] adalwyd 4 Gorffennaf 2015
  4. "The Late Mr W R H Powell MP Maesgwynne - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1890-07-04. Cyrchwyd 2015-07-04.
  5. "HUNTINGAPPOINTMENTS - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1849-02-16. Cyrchwyd 2015-07-04.
  6. "CARMARTHENSHIRE ELECTION - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1852-05-14. Cyrchwyd 2015-07-04.
  7. "CARMARTHENSHIRE ELECTION - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1857-06-19. Cyrchwyd 2015-07-04.
  8. "MR PUGHS MEETING AT ST CLEARS - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1868-10-02. Cyrchwyd 2015-07-04.
  9. "MRWRHPOWELLMPATCROSSINN - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1881-12-17. Cyrchwyd 2015-07-04.
  10. "DEATHOFMRWItHjPOWELLMP - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1889-06-27. Cyrchwyd 2015-07-04.
  11. Casgliad y Werin Cofeb i Walter Rice Howell Powell AS (1819-1889) yn Llanboidy [2] adalwyd 4 Gorffennaf 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Jones
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin
gyda
Is-iarll Emlyn

18801885
Olynydd:
diddymu'r etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol Gorllewin Caerfyrddin
18851889
Olynydd:
John Lloyd Morgan