George Rice-Trevor, 4ydd Barwn Dinefwr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
George Rice-Trevor, 4ydd Barwn Dinefwr
4thLordDynevor.jpg
Ganwyd 5 Awst 1795 Edit this on Wikidata
Bu farw 7 Hydref 1869 Edit this on Wikidata (74 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Geidwadol, Tori Edit this on Wikidata
Tad George Rice, 3ydd Barwn Dinefwr Edit this on Wikidata

Roedd George Rice-Trevor, 4ydd Barwn Dinefwr (5 Awst 17957 Hydref 1869) yn fonheddwr Cymreig a wasanaethodd fel aelod Torïaidd yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi Senedd y Deyrnas Unedig.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Arglwydd Dinefwr ym 1795 yn fab i George Talbot Rice, 3ydd Barwn Dinefwr a'r Anrhydeddus Frances Townsend, ei wraig, trydedd ferch Thomas Is-iarll cyntaf Sydney.

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg yr Iesu, Rhydychen lle graddiodd BA ym 1812 a graddio gyda Doethuriaeth yn y Gyfraith Cyffredin ym 1834.

Newidiodd ei gyfenw i Rice-Trevor trwy drwydded frenhinol ym 1824 ar ôl etifeddu ystadau teulu Trevor yn Glynde, Dwyrain Sussex.

Priododd Frances Fitzroy ar 27 Tachwedd 1824 merch yr Arglwydd Charles Fitzroy bu iddynt pum merch:

  • Frances Emily Rice (1827–1863)
  • Eva Gwenllian Rice-Trevor († 1842)
  • Caroline Elizabeth Anne Rice-Trevor (1829–1887)
  • Selina Rice-Trevor (1836- 1918)
  • Eleanore Mary Rice-Trevor († 1897)

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholwyd Rice-Trevor i'r Tŷ Cyffredin fel Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin am y tro cyntaf yn Etholiad Cyffredinol 1820 gan dal y sedd hyd Etholiad Cyffredinol 1831 pan safodd i lawr gan nad oedd yn credu bod ei farn bersonol ar ddiwygio’r senedd yn gyd fynd a barn ei etholwyr. Wedi pasio'r Deddf Diwygio Fawr ym 1832 penderfynodd ail ymgeisio am y Senedd yn Etholiad Cyffredinol 1832 gan lwyddo i gael ei ddychwelyd ar ôl gwario dros £30,000 ar yr ymgyrch (tua £2.5 miliwn yn ôl gwerth cyfredol)[2]. Cadwodd y sedd hyd 1852, pan gafodd ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi ar farwolaeth ei dad.

O 1852 hyd 1869 gwasanaethodd fel Aid De Camp (ysgrifennydd personol) i'r Frenhines Fictoria.

Gwasanaethodd fel Capten ym Milisia Sir Gaerfyrddin o 1813 i 1821, pan gafodd ei ddyrchafu yn Is gyrnol; ym 1852 cafodd ei ddyrchafu yn Gyrnol y Milisia.

Ym 1839 cafodd ei benodi yn Is Raglaw Sir Caerfyrddin. Fel Is Raglaw'r sir ac Is gyrnol y Milisia yr oedd yn weithgar yn yr ymgyrch i rwystro a dal y sawl a fu'n ymgyrchu yn Helyntion Becca.[3]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw Dinefwr yn Great Malvern, Swydd Gaerwrangon ar y 7fed Hydref 1869 yn 74 mlwydd oed; gan nad oedd ganddo etifedd gwrywaidd aeth y Barwniaeth i'w gefnder y Parch Francis William Rice.

George Rice-Trevor tua 1833

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Death of Lord Dynevor[1] Adalwyd 12 Ebrill 2015
  2. Measuring Worth [2] adalwyd 13 Ebrill 2015
  3. Policing Rebecca - The 4th Lord and the Rebecca Riots [3] adalwyd 13 Ebrill 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Yr Arglwydd Robert Seymour
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin
18201831
Olynydd:
James Hamlyn-Williams
Rhagflaenydd:
James Hamlyn-Williams
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin
18321852
Olynydd:
David Jones
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig
Rhagflaenydd:
George Talbot Rice
Barwn Dinefwr
1852 - 1869
Olynydd:
Francis William Rice