John Jones, Ystrad

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am bobl eraill o'r un enw, gweler John Jones (tudalen wahaniaethu).

Roedd John Jones, (15 Medi 177710 Tachwedd 1842) yn wleidydd Torïaidd a Cheidwadol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Penfro, Bwrdeistref Caerfyrddin a Sir Gaerfyrddin ar wahanol adegau rhwng 1815 a 1842.[1][2]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Jones ym 1777 yn ail fab i Thomas Jones, Ystrad a Chapeldewi ag Anna Maria (né Jones), merch John Jones, Crynfryn, Ceredigion.[3]

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen.

Roedd yn ddibriod, ond bu ganddo fab, Richard, o berthynas gordderch.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei alw i'r bar yn Lincoln's Inn ym 1803 a bu'n ymarfer y gyfraith yng nghylchdaith De Cymru.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd tad Jones yn asiant ystâd Gelli Aur, a daeth yn eiddo i'r Chwig yr Arglwydd Cawdor; gan hynny etholwyd Jones yn Faer Tref Caerfyrddin o dan nawdd Cawdor[4].

Gwrthododd Cawdor cefnogi uchelgais Jones i ddyfod yn Aelod Seneddol, felly safodd dros y Torïaid a diddordeb Arglwydd Dinefwr yn etholaeth Bwrdeistref Caerfyrddin yn etholiad 1812, ond ni fu'n llwyddiannus. Ar farwolaeth Syr Thomas Picton AS Penfro, ym mrwydr Waterloo ym 1815 llwyddodd Jones i gipio'r sedd dros y Torïaid yn yr isetholiad canlynol. Gorfodwyd Jones i ildio'r sedd i John Hensleigh Allen, ymgeisydd Cawdor, yn etholiad cyffredinol 1818 gan sefyll yn aflwyddiannus eto ym Mwrdeistref Caerfyrddin. Bu'n bwriad ganddo i sefyll eto yn etholiad 1820 ond darbwyllwyd iddo beidio, gan mae edling Cawdor, John Frederick Campbell oedd ymgeisydd y Chwigiaid ac roedd y Torïaid yn ofni y byddai ei wrthwynebu yn achosi brwydr ffyrnig dros Sir Gaerfyrddin lle'r oedd edling Dinefwr, George Rice Rice-Trevor, yn ymgeisio.

Bu farw Cawdor ym 1821 a dyrchafwyd AS Caerfyrddin i'r bendefigaeth. Yn yr isetholiad dychwelwyd Jones i San Steffan yn ddiwrthwynebiad. Llwyddodd i gadw'r sedd yn etholiadau 1826 ac 1830.

Yn ystod etholiad cyffredinol 1831 bu terfysg yn etholaeth a bu rhaid rhoi'r gorau i'r etholiad wedi i ddim ond 6 phleidlais cael ei fwrw.[5] Cyflwynodd gwrthwynebydd Jones, John George Philipps, deiseb i'r Senedd i hawlio'r sedd, yn honni mae cefnogwyr Jones oedd wedi dechrau'r cythrwfl pan ddaeth yn amlwg bod Jones ar fin golli. Gwrthodwyd y ddeiseb a gorchymynnwyd cynnal isetholiad ym mis Awst 1831. Enillodd Jones yr isetholiad yn gyffyrddus ond derbyniodd anaf difrifol i'w ben wedi i un o gefnogwyr Philipps ei fwrw wrth i'r canlyniad cael ei gyhoeddi.

Yn y senedd roedd Jones yn ymddiddori yn bennaf a phynciau oedd o fudd iddo'i hun fel twrnai a pherchennog tir, megis dyfodol y llysoedd yng Nghymry a deddfau yn ymwneud ag amaethyddiaeth. Roedd mor frwd dros ddiddymu'r dreth ar halen cafodd ei lysenwi yn Jones yr Halen. Roedd yn gefnogwr brwd o'r eglwys Anglicanaidd yn gwrthwynebu Anghydffurfiaeth ac yn pleidleisio yn erbyn rhoi hawliau i Gatholigion. Roedd yn gwrthwynebu'r iaith Gymraeg gan alw ar i'r ysgolion elusennol i beidio cynnal moddion i gadw'r iaith yn fyw. Roedd yn llugoer am Ddeddf Diwygio'r Senedd 1832[6], a phan gynhaliwyd etholiad cyffredinol 1832, er mwyn rhoi'r hawl i'r rhai oedd newydd dderbyn yr etholfraint trwy'r ddeddf pleidleisio, collodd ei sedd i'r ymgeisydd Rhyddfrydol William Henry Yelverton. Safodd fel ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Sir Gaerfyrddin yn etholiad Cyffredinol 1835 yn aflwyddiannus ac eto ym 1837 gan gipio'r sedd a gan ddal y sedd hyd ei farwolaeth ym 1842

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn ei gartref yn 66 mlwydd oed [7] a rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent Eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin. Ewyllysodd ei ystâd i'w chwaer Mary Ann ar yr amod bod hi'n talu rhent i Richard, mab Jones; ond canfuwyd bod yr ystâd yn feth-dalu a bu'n rhaid gwerthu'r cyfan [8] er mwyn clirio'r dyledion.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Llun o Jones yn y Guildhall, Caerfyrddin

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Thomas Picton
Aelod Seneddol Penfro
18151818
Olynydd:
John Hensleigh Allen
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Frederick Campbell
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin
18211832
Olynydd:
William Henry Yelverton
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
James Hamlyn-Williams
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin
18371842
Olynydd:
David Arthur Saunders Davies