James Hamlyn-Williams, 3ydd Barwnig

Oddi ar Wicipedia
James Hamlyn-Williams, 3ydd Barwnig
Ganwyd25 Tachwedd 1790 Edit this on Wikidata
Sir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw10 Hydref 1861 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Cymru, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
GalwedigaethAelod Seneddol, y Deyrnas Unedig, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadSir James Hamlyn-Williams, 2nd Baronet Edit this on Wikidata
MamDiana Anne Whitaker Edit this on Wikidata
PriodLady Mary Fortescue Edit this on Wikidata
PlantMary Eleanor Hamlyn-Williams, Susan Hester Hamlyn-Williams, Edwina Augusta Williams Edit this on Wikidata

Roedd Syr James Hamlyn-Williams, 3ydd Barwnig (25 Tachwedd 1790 - 10 Hydref 1861) yn dirfeddiannwr, yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin ar ddau achlysur rhwng 1831 a 1832 ac wedyn rhwng 1835 a 1837[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Syr James yn fab hynaf i Syr James Hamlyn-Williams, 2il Farwnig, a Dianne Anna (née Whittaker) ei wraig; merch Abraham Whittaker, marsiandiwr o Stratford, Essex.

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Caerwynt rhwng 1802 a 1806.

Ym 1823 priododd y Ledi Mary Fortescue, Merch Hugh Fortescue, Iarll Cyntaf Fortiscue; bu iddynt tair merch.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Gwasanaethodd fel milwr yng Nghatrawd y 7fed Hwsâr rhwng 1810 a 1823 gan wasanaethu fel is gapten o 1810 i 1813, Capten o 1813 i 1821 ac Uwchgapten o 1821 hyd ei ymddeoliad o'r fyddin sefydlog ym 1823.

Bu'n ymladd yn Rhyfel Iberia gan gael ei grybwyll mewn cadlythyrau am ei wasanaeth ym mrwydrau Orthes, Barcelona a Toulouse.[2]

Ym 1829 etifeddodd barwnigaeth ac ystâd ei dad, gan ymgymryd â dyletswyddau tirfeddiannwr bonheddig.[3]

Gwasanaethodd fel Cyrnol Milisia Swydd Dyfnaint, Dirprwy Raglaw Dyfnaint ac fel Uchel Siryf Sir Caerfyrddin ym 1848

Gyrfa etholiadol[golygu | golygu cod]

Safodd etholiad ym 1831 yn enw'r gleision sef cefnogwyr y Chwigiaid yng ngorllewin Cymru. Bu'n ymgyrchu o blaid diwygio'r etholfraint, am gael gwared â'r dreth ar frag, sebon a chanhwyllau, am wrthwynebu caethwasanaeth ac am economi rhydd. Bu'n canfasio ym mhell cyn i'r etholiad cael ei alw'n swyddogol ac, o weld y tebygrwydd o gael ei drechu penderfynodd deiliad y sedd, George Rice-Trevor, i beidio ail sefyll, gan ganiatáu i Hamlyn-Williams cael ei ethol yn ddiwrthwynebiad[4].

Wedi pasio'r Ddeddf Diwygio Mawr ym 1832 rhoddwyd ail sedd seneddol i Sir Gaerfyrddin, ac roedd Hamlyn-Williams yn sicr y byddai o fel ymgeisydd y gleision a Rice-Trevor fel ymgeisydd y cochion (cefnogwyr y Torïaid) yn rhannu'r ddwy sedd yn ddiwrthwynebiad; ond fe sicrhaodd Rice-Trevor bod ymgeisydd Chwig swyddogol yn sefyll yr etholiad hefyd sef Edward Hamlyn Adams a gan hynny daeth Hamlyn-Williams yn drydydd a cholli ei sedd[5].

Yn etholiad 1835 sicrhaodd cefnogaeth Rice-Trevor a'r Blaid Ryddfrydol i sefyll fel ymgeisydd swyddogol ar ran y Rhyddfrydwyr a llwyddodd i gipio'r ail safle ac ennill yr ail sedd, ond collodd cefnogaeth Rice-Trevor eto am gefnogi diwygio bellach ar yr etholfraint a chollodd pleidleiswyr rhyddfrydol oedd yn rhydd o ddylanwad yr ystadau trwy beidio a mynd yn ddigon pell yn ei gefnogaeth i ddiwygio, a chollodd ei sedd eto ym 1837.[6]

Penderfynodd beidio sefyll eto.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref yn Clovelly ym Mis Hydref 1861 yn 70 mlwydd oed. Gan nad oedd ganddo fab i etifeddu'r teitl bu farw'r farwnigaeth gydag ef.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The History of Parliament Trust HAMLYN WILLIAMS, Sir James, 3rd. bt. (1790-1861), of Edwinsford, Carm. and Clovelly Court, nr. Bideford, Devon adalwyd 3 Mehefin 2016
  2. "FUNERALOFSIRJAMESHAMLYN11BWILLIAMSI - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1861-10-25. Cyrchwyd 2016-06-03.
  3. Magna Britannia: Being a Concise Topographical Account of the Several Counties of Great Britain. Containing Devonshire, Volume 6 Tud 122
  4. "Carmarthenshire Election - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1831-05-13. Cyrchwyd 2016-06-03.
  5. "CARMARTHENSHIRE ELECTION - The Cambrian". T. Jenkins. 1832-12-22. Cyrchwyd 2016-06-03.
  6. "Cymeradwaeth Syr Jas Williams - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1835-07-21. Cyrchwyd 2016-06-03.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
George Rice Trevor
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin
18311832
Olynydd:
Edward Hamlyn Adams
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Edward Hamlyn Adams
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin
18351837
Olynydd:
John Jones, Ystrad
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig
Rhagflaenydd:
James Hamlyn-Williams, 2il Farwnig
Barwnigaeth Hamlyn-Williams
18291861
Olynydd:
difodiant