Barwnigaeth Hamlyn-Williams

Oddi ar Wicipedia
Arfbais Hamlyn

Roedd barwnigaeth Hamlyn, wedyn Hamlyn-Williams, o Clovelly yn Nyfnaint, yn deitl ym marwnigaeth Prydain Fawr[1].

Cafodd ei greu ar 7 Gorffennaf 1795 ar gyfer James Hamlyn (ganwyd James Hammett), etifedd ei hen ewythr Zachary Hamlyn (1677-1759) o Clovelly. Priododd Arabella Williams, merch ac aeres Syr Thomas Williams (bu farw.1792), ail farwnig Rhyd Edwin, Llandeilo Ychwanegodd eu mab, yr ail Barwnig, yr enw ychwanegol Williams at gyfenw'r teulu ym 1798. Daeth y teitl i ben ar farwolaeth ei fab ef, y trydydd Barwnig, ym 1861. Bu'r tri Barwnig yn cynrychioli Sir Gaerfyrddin yn San Steffan. Bu Charles Hamlyn-Williams, mab ieuengaf yr ail Barwnig, yn ôl-lyngesydd yn y Llynges Frenhinol.

Susan Hester Hamlyn-Williams, merch hynaf y trydydd Barwnig, etifeddodd y sedd deuluol, Clovelly Court; priododd hi Henry Fane, a gymerodd y cyfenw Hamlyn-Fane.

Deiliaid[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Kidd, Charles, Williamson, David (gol.). Debrett's Peerage and Baronetage (rhifyn 1990). Efrog Newydd: St Martin's Press, 1990
  2. HAMLYN WILLIAMS, Sir James, 3rd. bt. (1790-1861), of Edwinsford, Carm. and Clovelly Court, nr. Bideford, Devon adalwyd 3 Mehefin 2016