Frederick Campbell, 3ydd Iarll Cawdor

Oddi ar Wicipedia
Frederick Campbell, 3ydd Iarll Cawdor
Ganwyd13 Chwefror 1847 Edit this on Wikidata
Windsor Edit this on Wikidata
Bu farw8 Chwefror 1911 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadJohn Campbell, 2il Iarll Cawdor Edit this on Wikidata
MamSarah Mary Cavendish Edit this on Wikidata
PriodEdith Turnor Edit this on Wikidata
PlantEdith Campbell, Hugh Campbell, Nigel Campbell, Mabel Campbell, Ralph Campbell, Lilian Campbell, Elidor Campbell, Ian Campbell, Eric Campbell, Muriel Campbell Edit this on Wikidata

Roedd Frederick Archibald Vaughan Campbell, 3ydd iarll Cawdor PC, DL, YH (13 Chwefror 18478 Chwefror 1911), (a adnabuwyd wrth y teitl Is-iarll Emlyn rhwng 1860 a 1898), yn wleidydd Ceidwadol Cymreig. Gwasanaethodd am gyfnod byr fel Prif Arglwydd y Morlys rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr 1905.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Roedd Cambell yn fab hynaf i John Campbell, 2il iarll Cawdor a'i wraig, Sarah Mary, merch Y Cadfridog yr Anrhydeddus Henry Cavendish. 

Addysgwyd ef yn Eton ac Eglwys Crist, Rhydychen.

Priododd Edith Georgiana Turnor, merch Christopher Turnor, ar 16 Medi, 1868[1]. Bu iddynt deg o blant

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Etholwyd Cambell fel Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Gaerfyrddin yn Etholiad Cyffredinol 1874, gan ddod i frig y pôl. Safodd eto ym 1880 ond fe'i gwthiwyd i'r ail safle gan yr ymgeisydd Rhyddfrydol, Walter Rice Howell Powell, gan fod Sir Gaerfyrddin yn sedd dau aelod cadwodd ei sedd. Diddymwyd etholaeth Sir Gaerfyrddin ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1885, safodd Iarll Emlyn yn etholaeth newydd Gorllewin Caerfyrddin gan golli'n drwm i'r ymgeisydd Rhyddfrydol.

Safodd fel ymgeisydd yn etholaeth Manchester South yn Etholiad Cyffredinol 1892 gan gael ei drechu gan yr ymgeisydd Rhyddfrydol o dim ond dau y cant o'r bleidlais[1]:*

Etholiad Cyffredinol 1892: Manchester South
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydwyr Henry Enfield Roscoe 4,245 51
Ceidwadwyr Is Iarll Emlyn 4,064 49
Mwyafrif 181 2

Safodd eto yn etholaeth Criklade Wiltshire mewn isetholiad ym 1898, gan gael ei drechu gan yr ymgeisydd Rhyddfrydol unwaith yn rhagor.[2]*

*(Nodyn: Mae'r Bywgraffiadur yn anghywir wrth honni bod Is Iarll Emlyn wedi ei ethol yn aelod dros Dde Manceinion 1892 , ac adran Cricklade yn Wiltshire , 1898)[3]  

Bu farw'r 2il Iarll Cawdor ym 1898 a dyrchafwyd Is Iarll Emlyn i Dŷ'r Arglwyddi fel y 3ydd Iarll Cawdor[4]. Cafodd ei benodi fel Brif Arglwydd y Morlys yn Llywodraeth Arthur Balfour ym mis Mawrth 1905[5] ond collodd y swydd ychydig fisoedd yn niweddarach pan gollodd y Ceidwadwyr yr Etholiad Cyffredinol a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 1905 / Ionawr 1906. 

Cymerodd yr Arglwydd Cawdor ran flaenllaw yng ngwrthwynebiad y Ceidwadwyr i gyllideb Lloyd George ym 1909[6] ac wrth ddrafftio addunedau ar gyfer diwygio Tŷ'r Arglwyddi ym 1910. 

Gwasanaethodd fel Arglwydd Raglaw Sir Benfro o 1896 hyd ei farwolaeth.[7]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw o niwmonia ym Mayfair ar yr 8 Chwefror, 1911, claddwyd ei weddillion yn Eglwys Y Stagbwll, Sir Benfro[3]. Olynwyd ef i'r Iarlliaeth gan ei fab Hugh Frederick Cambell, 4ydd Iarll Cawdor.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "The Viscount Emlyn - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1891-07-17. Cyrchwyd 2015-08-07.
  2. "Wiltshire Election - The South Wales Daily Post". William Llewellyn Williams. 1898-02-18. Cyrchwyd 2015-08-07.
  3. 3.0 3.1 Y Bywgraffiadur Arlein [1] adalwyd 7 Awst 2015
  4. "Marwolaeth Arglwydd Cawdor - Y Llan". J. Morris. 1898-04-01. Cyrchwyd 2015-08-07.
  5. "Earl Cawdor - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1905-03-11. Cyrchwyd 2015-08-07.
  6. "Arglwydd Cawdor a Mr Lloyd George - Y Clorianydd". David Williams. 1909-12-30. Cyrchwyd 2015-08-07.
  7. "Lord Emlyn - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1896-11-07. Cyrchwyd 2015-08-07.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Edward John Sartoris
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin
18741885
Olynydd:
diddymu'r etholaeth
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig
Rhagflaenydd:
John Frederick Campbell
Iarll Cawdor
1898–1911
Olynydd:
Hugh Frederick Campbell
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
Barwn Kensington
Arglwydd Raglaw Sir Benfro
1896 - 1911
Olynydd:
Is Iarll Tyddewi