John Campbell, 2il Iarll Cawdor

Oddi ar Wicipedia
John Campbell, 2il Iarll Cawdor
John Campbell, 2il Iarll Cawdor
Ganwyd11 Mehefin 1817 Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mawrth 1898 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
TadJohn Campbell Edit this on Wikidata
MamElizabeth Campbell Edit this on Wikidata
PriodSarah Mary Cavendish Edit this on Wikidata
PlantFrederick Campbell, 3ydd Iarll Cawdor, Rachel Anne Georgina Campbell, Victoria Alexandrina Elizabeth Campbell, Muriel Campbell, Ronald George Elidor Campbell, Alexander Francis Henry Campbell Edit this on Wikidata

Roedd John Frederick Vaughan Campbell, 2il Iarll Cawdor (11 Mehefin 181729 Mawrth 1898) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Benfro o 1841 hyd 1860, gan ddefnyddio'r teitl Is iarll Emlyn, ac fel aelod Ceidwadol o Dŷ'r Arglwyddi o 1860 hyd ei farwolaeth ym 1898[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Roedd Campbell yn fab i John Frederick Cambell Iarll 1af ac 2il Farwn Cawdor o Gastell Cawdor yn Swydd Nairn, yr Alban, Llys Stackpole, Y Stagbwll, Sir Benfro a'r Gelli Aur, Sir Gaerfyrddin. Ei fam oedd Elizabeth, merch hynaf Thomas Thynne 2il Is iarll Bath [2]

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg Eglwys Crist, Rydychen lle graddiodd BA ym 1838 ac MA ym 1841

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Priododd Sarah Mary Compton Cavendish, merch y Cadfridog yr anrhydeddus Henry Frederick Compton-Cavendish a Sarah Fawkener, ar 28 Mehefin 1842. Bu iddynt 10 o blant, 4 mab a 6 merch, bu farw 3 yn eu hieuenctid; y 7 a oroesodd oedd:

  • Y Ledi Victoria Alexandrina Elizabeth Campbell (24 Mawrth 1843-30 Mawrth 1909)
  • Y Ledi Muriel Sarah Campbell (27 Mai 1845-30 Medi 1934)
  • Frederick Archibald Vaughan Campbell, 3ydd Iarll Cawdor (13 Chwefror 1847–08 Chwefror 1911)
  • Yr Anrhydeddus Ronald George Elidor Campbell (30 Rhagfyr 1848–28 Mawrth 1879)
  • Y Ledi Evelyn Caroline Louise Campbell (24 Gorffennaf 1851-)
  • Y Ledi Rachel Anne Georgina Campbell (04 Gorffennaf 1853-06 Hydref 1906)
  • Yr Anrhydeddus. Alexander Francis Henry Campbell (03 Medi 1855–05 Mawrth 1929)

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Daeth yr Is iarll Emlyn yn 21 mlwydd oed ym 1838, ac yn ddigon hen i'w ethol i'r Senedd; gan hynny gorfodwyd AS cyfredol Sir Benfro, Syr John Owen, i sefyll i lawr i wneud lle i'r Is iarll mewn sedd a gyfrifwyd fel "eiddo" Arglwyddi Cawdor yn yr etholiad cyffredinol nesaf a gynhaliwyd ym 1841. Cafodd Emlyn ei ethol, yn gwbl di wrthwynebiad ym mhob etholiad hyd ei ddyrchafu i'r bendefigaeth ar farwolaeth ei dad ym 1861.

Yn syth wedi ei ethol fe'i benodwyd yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Ddug Bucclcuch, Arglwydd Breifat y Sêl (Lord Privy Seal). Ym 1842 fe'i benodwyd yn ysgrifennydd byr nodiadau yn y Swyddfa Dramor, hyd i'r llywodraeth Ceidwadol syrthio ym 1846.

Gwasanaethodd fel Is-Raglaw Swydd Nairn, Is Raglaw Swydd Inveness ac Is raglaw Sir Gaerfyrddin. Gwasanaethodd fel Arglwydd Raglaw Sir Gaerfyrddin o 1861 i 1898.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn y Stagbwll yn 71 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent eglwys Cheriton[3]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr John Owen
Aelod Seneddol Sir Benfro
18411861
Olynydd:
George Lort Philipps
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig
Rhagflaenydd:
John Frederick Cambell
Iarll Cawdor
1860 - 1898
Olynydd:
Frederick Campbell, 3ydd Iarll Cawdor
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
John Frederick Cambell
Arglwydd Raglaw Sir Gaerfyrddin
1861 - 1898
Olynydd:
Syr James Williams-Drummond

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. CAMPBELL , FREDERICK ARCHIBALD VAUGHAN
  2. "DeathofLordCawdor - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1898-04-02. Cyrchwyd 2017-01-22.
  3. "MARWOLAETHARCLWYMICAWDOR - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1898-04-05. Cyrchwyd 2017-01-22.