William Edwardes, 4ydd Barwn Kensington

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
William Edwardes, 4ydd Barwn Kensington
William Edwardes, Vanity Fair, 1878-09-07.jpg
Ganwyd 11 Mai 1835 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw 7 Hydref 1896 Edit this on Wikidata (61 oed)
Kelso Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd William Edwardes, PC (11 Mai 1835 - 7 Hydref 1896) Barwn 1af Kensington ym Mhendefigaeth y Deyrnas Unedig a 4ydd Barwn Kensington ym mhendefigaeth Iwerddon, yn dirfeddiannwr a gwleidydd Rhyddfrydol a gynrychiolodd etholaeth Hwlffordd yn Senedd y Deyrnas Unedig.[1].

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Edwardes yn Llundain yn fab hynaf Capten William Edwardes, 3ydd Barwn Kensington o Neuadd Hebburn, Hebburn, Swydd Durham a Laura Jane Ellison, merch Cuthbert Ellison, ei wraig. Bu William Edwardes, 2ail Barwn Kensington ei hen daid William Edwardes, Barwn 1af Kensington a'i hen hen daid Francis Edwardes hefyd yn gwasanaethu fel AS Hwlffordd.

Priododd Arglwydd Kensington a Grace Elizabeth Johnstone-Douglas, merch Robert Johnstone-Douglas, ym 1867; bu iddynt bedwar mab a phum merch.

Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Eton

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymunodd a chatrawd Gwarchodlu'r Coldstream ym 1867 gan wasanaethu fel capten ag uwchgapten, ond ymadawodd ar fyddin tair blynedd yn ddiweddarach er mwyn edrych ar ôl ystâd helaeth ei deulu yn siroedd Penfro, Caerfyrddin a Cheredigion. Etifeddodd yr ystâd a'r Barwniaeth ar farwolaeth ei dad ym 1872

Gwasanaethodd fel Dirprwy Raglaw Sir Benfro o 1862 ac fel Arglwydd Raglaw'r sir ym 1872. Gwasanaethodd fel Gwas Wrth Aros i'r Frenhines Victoria rhwng 1873 a 1874. Gwasanaethodd fel Distain Gosgordd y Frenhines o 1880 hyd 1885 pan ddyrchafwyd ef i swydd Arglwydd wrth Aros. Gwasanaethodd fel Capten Iwmyn y Gard o 1892 i 1895[2]

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Safodd yn etholaeth Hwlffordd fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholiad cyffredinol 1865, gan golli yn erbyn y deiliad Ceidwadol John Henry Scourfield . Yn etholiad cyffredinol 1868 penderfynodd Scourfield sefyll dros Sir Benfro yn hytrach na'r fwrdeistref. Safodd Edwardes eto yn enw'r Rhyddfrydwyr gan lwyddo i gipio'r sedd. Er i Edwardes etifeddu'r teitl Y Barwn Kensington ym 1873, gan ei fod yn arglwyddiaeth yn y bendefigaeth Wyddelig yn hytrach nag un y DU, ni chafodd ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi a pharhaodd i gynrychioli Hwlffordd yn y Senedd hyd ddiddymu'r sedd ar gyfer etholiad cyffredinol 1885. Wedi diddymu Hwlffordd, safodd yr Arglwydd Kensington dros y Rhyddfrydwyr yn etholaeth Hornsey gan golli'n drwm i Syr James McGarel-Hog y deiliad Ceidwadol.

Wedi methu a dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin cafodd ei ddyrchafu gan Gladstone i Dŷ'r Arglwyddi fel Barwn 1af Kensington ym mhendefigaeth y Deyrnas Unedig. Gwasanaethodd fel Chwip y Blaid Ryddfrydol yn y ddau dy.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Eglwys Sain Ffrêd

Bu farw yn ddisymwth o drawiad ar y galon yn Kelso, yr Alban tra ar daith hela[3]. Claddwyd ei weddillion yng nghladdgell y teulu yn Eglwys Sain Ffrêd[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. EDWARDS , EDWARDES (TEULU), Chirkland , sir Benfro , a Kensington
  2. "Lord Kensington." Times London, England 8 Oct. 1896: 4. The Times Digital Archive. Web. 31 Oct. 2016.
  3. "DeathofLordKensington - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1896-10-10. Cyrchwyd 2016-10-31.
  4. "ITynansRelease - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1896-10-16. Cyrchwyd 2016-10-31.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Henry Scourfield
Aelod Seneddol Hwlffordd
18681885
Olynydd:
dileu'r etholaeth