David Arthur Saunders Davies
David Arthur Saunders Davies | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mehefin 1792 |
Bu farw | 22 Mai 1857 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Roedd David Arthur Saunders Davies (9 Mehefin 1792 – 22 Mai 1857) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin rhwng 1842 a 1857[1]
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Davies yng Nghaerfyrddin yn fab hynaf Dr David Davies, meddyg, a Susana (née Saunders) ei wraig. Roedd Susana yn ferch ac etifedd Erasmus Davies, ystâd y Pentre Maenordeifi.
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Harrow a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen lle graddiodd BA ym 1814 ac MA ym 1817.
Ym 1826 priododd Elizabeth Maria, merch Cyrnol Owen Philipps a chwaer John Henry Scourfield AS Sir Benfro. Bu hi farw 19 Gorffennaf 1851; bu iddynt dri mab a dwy ferch. Bu farw eu hail fab Owen Gwyn yng ngwarchae Sabastopol, Rhyfel y Creimea[2]. Safodd eu mab hynaf, Arthur Henry, fel ymgeisydd seneddol i'r Rhyddfrydwyr yn etholaeth Ceredigion ym 1859 ac i'r Ceidwadwyr yn Sir Benfro ym 1895.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Fe'i galwyd i'r bar yn Lincoln's Inn ym 1818 a bu'n ymarfer y gyfraith yng nghylchdaith De Cymru gan wasanaethu fel cadeirydd Llysoedd Chwater Swydd Aberteifi ac fel un o Ynadon Heddwch Sir Gaerfyrddin. Ar farwolaeth ei dad ym 1829 daeth yn dirfeddiannwr ar ystâd helaeth a oedd yn cynnwys Pentre, Maenordeifi; Moel Ifor, Llanrhystud; Erw Wastod yn Llanedi a thiroedd yn ardal Abertawe. Roedd yr ystadau yn eu cyfanrwydd yn mesur tua 9,900 cyfer [3]
Gyrfa Wleidyddol
[golygu | golygu cod]Dewiswyd Davies i gynrychioli'r achos Geidwadol ar farwolaeth John Jones, Ystrad ym 1842 a chafodd ei ailethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau cyffredinol 1847, 1852 a 1857. Ni fu ei yrfa seneddol yn un nodedig.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn sydyn wrth giniawa gyda'i fab yng Nghlwb Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, Llundain yn 65 mlwydd oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895
- ↑ "ILAMENTEDDEATHOFDAVIDARTHURIiSAUNDERSDAVIESESQMPJ - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1857-05-29. Cyrchwyd 2017-01-22.
- ↑ Archifau Cymro - Archifdy Sir Benfro Papers of the Saunders-Davies family of Pentre Cyfeirgôd(au): GB 0213 D/PEN[dolen farw]
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Jones |
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin 1842 – 1857 |
Olynydd: David Pugh |