Ernest Evans

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ernest Evans
Ganwyd 17 Mai 1885 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
Bu farw 18 Ionawr 1965 Edit this on Wikidata (79 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Barnwr, Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Member of the 36th Parliament of the United Kingdom, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 31ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Cyfreithiwr, Aelod Seneddol Rhyddfrydol a Barnwr oedd Ernest Evans (7 Mai 188518 Ionawr 1965).

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Evans yn Aberystwyth yn fab i Evan Evans, cyfreithiwr a chlerc Cyngor Sir Ceredigion, ac Anne (née Davies) ei wraig. Ym 1905 cofrestrodd yn Neuadd y Drindod, Prifysgol Caergrawnt lle astudiodd y gyfraith gan raddio yn LLB ym 1909. Tra yn fyfyriwr yng Nghaergrawnt bu yn aelod gweithgar o'r Gymdeithas Gymreig ac o'r Undeb lle enillodd cryn enw iddo'i hyn fel dadleuwr dros yr achos Rhyddfrydol. Cafodd ei ddyrchafu yn Llywydd yr Undeb ym 1909, Y Cymro Cyntaf i wasanaethu yn y swydd.[1]

Gyrfa cyn dyfod yn AS[golygu | golygu cod y dudalen]

Galwyd Evans i'r Bar yn Lincoln's Inn ym 1910 a bu'n gweithio ar gylchdaith De Cymru gan wneud ei ymddangosiad cyntaf fel twrnai yn Llysoedd Sesiwn Aberteifi ym Mis Gorffennaf 1910 [2]

Gwasanaethodd gyda'r Army Service Corps, adran o'r fyddin oedd yn gyfrifol am sicrhau trafnidiaeth a symudiad nwyddau i'r lluoedd o 1916 i ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf gan gyrraedd rheng capten.

Gan ei fod wedi gwneud marc amlwg fel llefarydd ar ran y Rhyddfrydwyr a Chymdeithas y Rhyddfrydwyr Ifanc cyn y rhyfel yr oedd disgwyl iddo sefyll fel ymgeisydd i'w blaid yn etholiad cyffredinol 1918, o bosib yn etholaeth newydd Prifysgol Cymru, yn lle hynny penderfynodd mynd i weithio fel un o Ysgrifenyddion Cyfrinachol David Lloyd George y brif weinidog yn 10 Downing Street.[3]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd is etholiad yn etholaeth Ceredigion ym mis Chwefror 1921 wedi i'r Aelod Seneddol Rhyddfrydol cael ei ddyrchafu i Dy'r Arglwyddi. Ar anogaeth ei fentor Lloyd George fe safodd Evans fel ymgeisydd ar ran Rhyddfrydwyr y Glymblaid, ei wrthwynebydd oedd William Llywelyn Williams a oedd yn sefyll ar ran yr adain o'r Blaid Ryddfrydol a oedd yn dymuno i'r blaid mynd yn ôl at ei draddodiad fel plaid unigol ar ôl ddiwedd yr angen i gynghreirio o achos y Rhyfel. Enillodd Ernest Evans y sedd gyda mwyafrif dechau o dair mil a hanner o bleidleisiau a 57% o'r bleidlais, ond achosodd y rhwyg rhwng dwy garfan y Blaid Ryddfrydol gryn ddrwg deimlad ymysg Rhyddfrydwyr y fro a thorrwyd mwyafrif Evans,(a oedd yn sefyll fel Rhyddfrydwr Cenedlaethol) i ddim ond 515 yn erbyn ei wrthwynebydd o'r hen Blaid Ryddfrydol yn etholiad cyffredinol 1922 a chollodd ei sedd i Ryddfrydwr Annibynnol yn etholiad cyffredinol 1923 ar ôl i'r glymblaid rhwng y Rhyddfrydwyr a'r Toriaïd dod i ben.

Ar ôl blwyddyn allan o'r senedd safodd ar gyfer sedd Prifysgol Cymru gan guro'r heddychwr George M Ll Davies a oedd wedi ennill y sedd fel Heddychwr Cristionogol ym 1923 ond a oedd yn sefyll ym 1924 fel ymgeisydd y Blaid Lafur. Enillodd Evans yr ornest a bu'n cynrychioli'r Brifysgol yn San Steffan hyd 1943, pan ymddiswyddodd ar ôl cael ei benodi yn farnwr llys.[4]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi iddo ymadael a gwleidyddiaeth Seneddol gweithiodd Evans fel Barnwr Llysoedd Sirol Cymru a Chaer hyd ei ymddeoliad ym 1957. Fei dyrchafwyd yn Gwnsler y Brenin (KC) ym 1937.

Fe briododd a Constance Anne Lloyd ym 1925 a bu iddynt dri mab.

Bu farw yn ei gartref yn Neganwy, Sir Gaernarfon ar Ionawr 18 1965

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Matthew Vaughan-Davies
Aelod Seneddol dros Ceredigion
19211922
Olynydd:
Rhys Hopkin Morris
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
George Maitland Lloyd Davies
Aelod Seneddol dros Brifysgol Cymru
19231924
Olynydd:
W. J. Griffith