Matthew Vaughan-Davies, Barwn 1af Ystwyth

Oddi ar Wicipedia
Matthew Vaughan-Davies, Barwn 1af Ystwyth
Ganwyd17 Rhagfyr 1840 Edit this on Wikidata
Plas Tanybwlch Edit this on Wikidata
Bu farw21 Awst 1935 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadMatthew Davies Edit this on Wikidata
MamEmma Davies Edit this on Wikidata
PriodMary Powell Edit this on Wikidata

Roedd Matthew Lewis Vaughan-Davies, Barwn 1 af Ystwyth, (17 Rhagfyr, 184021 Awst, 1935 yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol etholaeth Ceredigion rhwng 1895 a 1921.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Vaughan-Davies yn Nhanybwlch, Ceredigion, yn fab i Matthew Davies, ac Emma (née Davies) ei wraig. Prin oedd ei fanteision addysg, methiant bu ei unig gyfnod o addysg ffurfiol, sef blwyddyn yn Harrow. Cafodd ei ddisgrifio fel ill-educated, uncultured, ill-informed [2].

Yn di briod hyd ei fod yn 48 mlwydd oed honnir ei fod wedi cael nifer o berthnasau all briodasol. Ym mysg ei gariadon honedig bu Mrs Powell, Nanteos, a oedd yn nodi bod ei gŵr oddi cartref trwy chwifio lliain gwely o bolyn baner Nanteos a Gladys Ashton o Welston Court Sir Benfro.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Roedd Davies yn dirfeddiannwr, ac yn feistr yr helfa. Gwasanaethodd fel ynad heddwch ar gyfer Ceredigion a chadeirydd mainc ynadon Llanilar. Bu'n uchel siryf Ceredigion ym 1875 [4] ac yn ddirprwy rhaglaw'r sir. Roedd yn aelod o Fwrdd gwarcheidwad y Tlodion Aberystwyth a Bwrdd Glanweithdra Aberystwyth Wledig. Roedd yn is gapten er anrhydedd ar Filisia Ceredigion, Brycheiniog a Maesyfed.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Fel y mwyafrif o fan bonheddwyr gwledig Cymru'r cyfnod roedd Davies yn Dori rhonc. Safodd fel yr ymgeisydd Ceidwadol yn etholiad cyffredinol 1885 [5] gan golli'n drwm i David Davies, Llandinam yr ymgeisydd Rhyddfrydol. Safodd fel ymgeisydd Ceidwadol aflwyddiannus eto ym 1889, i geisio sedd Llanfarian yn yr etholiad cyntaf i Gyngor Sir Ceredigion.[6]

Er ei fod yn sgweier ag ystâd o 3,674 erw roedd o'n weddol dlawd, dim ond £974 y flwyddyn oedd incwm rent yr ystâd. Ym 1889 priododd Mary Jenkins, gweddw gefnog o Abertawe a thrwy'r briodas daeth newid mawr er gwell i'w sefyllfa ariannol [7]. Roedd Mary Jenkins yn ffeminist, yn swffragét ac yn gefnogwr blaenllaw i'r Blaid Ryddfrydol. I ennill ei chalon ac, yn bwysicach byth ei phwrs, bu'n rhaid i Vaughan-Davies newid ei liwiau gwleidyddol.

Yn etholiad cyffredinol 1892, rhoddodd Vaughan-Davies ei gefnogaeth i'r Aelod Seneddol Rhyddfrydol William Bowen Rowlands. Pan roddodd Rowlands wybod i'r gymdeithas Ryddfrydol ei fod yn bwriadu sefyll i lawr o'i sedd daeth yn hysbys yn fuan fod gan Vaughan-Davies ddiddordeb yn yr enwebiad Rhyddfrydol. Gwrthwynebwyd hyn yn gryf gan ffigurau blaenllaw yn y Gymdeithas Ryddfrydol leol, megis y masnachwr o Aberaeron J.M. Howell a oedd yn amau ymrwymiad Davies i bolisïau Rhyddfrydol. Amheuaeth a chafodd ei brofi'n gywir yn ddiweddarach gan dystiolaeth am ei ymddygiad tuag at denantiaid ar ei ystâd a roddwyd ger bron ymchwiliad gan Gomisiwn Tir Cymru ar y berthynas rhwng tirfeddianwyr a'u tenantiaid.

Llwyddodd Vaughan-Davies i ennill yr enwebiad er gwaethaf ei wrthwynebwyr. Roedd Cymdeithas Ryddfrydol Ceredigion mewn trafferthion ariannol cyn i Vaughan-Davies, a'i gyfoeth trwy briodas, cael ei ethol yn drysorydd y gangen. Dyma yn ôl John Gibson golygydd radical y Cambrian News oedd y rheswm dros ei ddewis - rhoi'r geiniog uwchlaw egwyddor.[8] Mae'r Athro Kenneth O. Morgan yn awgrymu bod y rheswm yn fwy cymhleth a'i bod o wedi derbyn cefnogaeth Rhyddfrydwyr gwledig y sir oedd yn teimlo'n chwerw tuag at ddosbarth canol proffesiynol trefol llefydd fel Aberystwyth a oedd yn ddechrau cael goruchafiaeth yn y Blaid Ryddfrydol.[9]

Enillodd Vaughan-Davies y sedd dros y Rhyddfrydwyr yn etholiad cyffredinol 1895 a chadwodd ei le hyd iddo gael ei ddyrchafu i'r bendefigaeth fel Barwn Cyntaf Ystwyth ym 1921.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw'r Arglwydd Ystwyth yn 94 mlwydd oed. Gan na fu iddo blant, bu farw ei deitl gyda fo.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (2007, December 01). Ystwyth, 1st Baron cr 1921, of Tan-y-Bwlch, (Matthew Lewis Vaughan-Davies) (17 Dec. 1840–21 Aug. 1935). WHO'S WHO & WHO WAS WHO Retrieved 22 Feb. 2019
  2. Morgan yng Ngheredigion Cyf V tud 326
  3. Palmer. Matthew Lewis Vaughan Davies - ambitious cad or assiduous politician? tud 73
  4. "LOCALANDDISTRICT - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1875-02-12. Cyrchwyd 2019-02-23.
  5. "TO THE ELECTORS OF THE COUNTY OFC ARDIGAN - The Aberystwith Observer". David Jenkins. 1885-11-07. Cyrchwyd 2019-02-23.
  6. "CARDIGANSHIRE COUNTY COUNCIL - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1888-12-07. Cyrchwyd 2019-02-23.
  7. "ABRRYSTWYTH - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1889-12-14. Cyrchwyd 2019-02-23.
  8. "THE CONTEST IN CARDIGANSHIRE - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1895-07-05. Cyrchwyd 2019-02-23.
  9. Morgan. "Cardiganshire Politics": tud 326-7
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
William Bowen Rowlands
Aelod Seneddol

Ceredigion
18951921

Olynydd:
Ernest Evans