Aberteifi

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Aberteifi
Cardiganhighstreet.jpg
Math tref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.0842°N 4.6579°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000363 Edit this on Wikidata
Cod OS SN175465 Edit this on Wikidata
Cod post SA43 Edit this on Wikidata

Tref farchnad hanesyddol yn ne Ceredigion yw Aberteifi (Saesneg: Cardigan); saif ar lôn yr A487 hanner ffordd rhwng Aberaeron i'r gogledd ac Abergwaun i'r de. Fel mae'r enw yn ei awgrymu, saif y dref ar lan ogleddol Afon Teifi ger aber yr afon honno ym Mae Ceredigion. Yr ochr arall i'r aber mae pentref hanesyddol Llandudoch. Yn 2011 roedd gan y dref boblogaeth o 4,184 (Cyfrifiad 2011).

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Codwyd castell yn Aberteifi tua dechrau'r 12g yn ôl pob tebyg (mae peth dryswch yn y cofnodion cynnar rhwng y castell yn y dref a'r castell cynharach ar ei gyrion a elwir Hen Gastell Aberteifi). Yn y flwyddyn 1176 cynhaliodd Yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth eisteddfod yn ei lys yno adeg y Nadolig, yr eisteddfod gyntaf sy'n hysbys. Ymwelodd Gerallt Gymro ag Aberteifi yn ystod ei daith trwy Gymru ym 1188. Arhosodd y castell a'r dref fechan yn nwylo arglwyddi Deheubarth y rhan fwyaf o'r amser hyd 1240 pan syrthiodd i'r Saeson. Cipiodd Owain Glyndŵr y castell o ddwylo'r Saeson ym 1405.

Tyfodd y dref yn borthladd prysur yn y 18g. Erbyn dechrau'r 19g roedd dros 300 o longau hwylio yn gofrestredig yno. Cofnodir i tua 200 o longau gael eu hadeiladu mewn pump iard adeiladu ar lan yr afon. Allforid llechi Cilgerran o'r porthladd. Fodd bynnag dechreuodd yr afon siltio i fyny ac erbyn dechrau'r 20g roedd dyddiau'r porthladd ar ben.

Adeiladwyd y bont bum bwa ar draws afon Teifi yn 1726.[1]

Adeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

Un o adeiladau mwyaf adnabyddus y dref yw'r Guildhall.

Capeli ac eglwysi[golygu | golygu cod y dudalen]

Capeli[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhai o'r Gweinidogion: George Hughes (1881-1924); Y Parchg J. Arthur Jones 1927- ; Y Parchg Dr. Leighton James; Y Parchg Roland Bevan; Y Parchg David P. Kingdon; Y Parchg Ifan Mason Davies (1986- ); Y Parchg Dr. Gareth Edwards

  • Tabernacl, Capel y Methodistiaid Calfinaidd

Dyma enwau rhai o'r Gweinidogion: Robert Roberts, Penllwyn (1857-1862); Daeth Y Parchg W. Meidrym Jones ar 24 Hydref 1870; Mydrim Jones (1870-77); Griffith Davies (1881-74?; 1889-96); Y Parchg J. G. Moelwyn Hughes MA, PhD o Gastell Nedd (Ion 1896-1917/18); R. R. Williams (1923– ); Y Parchg Currie Hughes BA (1929- ); Y Parchg Richard Jones MA BSc, Charing Cross (Ion 1969– ); Y Parchg Thomas Roberts (1973-84) (1982?); Y Parchg Ifor ap Gwilym

  • Capel Mair, Annibynwyr. 1803+

Dyma rhai o'r Gweinidogion: Y Parchg Daniel Davies (1812–64); David Owen; David Owen arall; Y Parchg William Davies (1865-74); Y Parchg T. J. Morris (1876–1908); Y Parchg T. Esger James (1910–35); Y Parchg D. J. Roberts (1939–77); Y Parchg Ieuan Davies (1977-84); Y Parchg J. Arwyn Phillips (1986–93); Y Parchg Irfon Roberts (rhannu â Bethania).

Adeiladwyd y capel gwreiddiol ym 1803. Ail adeiladwyd ym 1869; ail agorwyd 20-21 Medi 1870. Adeiladwyd y festri ym 1881, a thŷ'r capel. Ym 1905 roedd gan y Capel 344 o aelodau.

  • Hope Chapel, Annibynwyr Saesneg. 1830+ (wedi cau)

Dyma enwau'r Gweinidogion: David Phillips; Richard Hancock ( -1850); Robert Breeze (1854); David Jones (1861-67); John Newman Richards (1867-73); Lewis Beynon (1873-); Melchizedek Evans (1884); T. C. Evans; Garro Jones (1895-1902); Evan Evans (1902-05); Morda Evans (1905-1911); W. Whittington (1911-1923); T. J. Walters (1928- ); T. E. Morris; Chwe 1946 Thomas Perkins. Ailadeiladwyd mis Hydref 1880.

  • Ebenezer, Wesle. 1867+ (wedi cau)

Eglwysi[golygu | golygu cod y dudalen]

Eglwys y Santes Fair
  • Yr Eglwys Gatholig

Eglwys Mair y Tapyr Agorwyd yr Eglwys bresennol ar 23 Gorffennaf 1970. Offeiriaid: Joseph Higgins (1930-32); John Tole (1932); Wilfred Brodie (1932-3); Basil Rowlands (1933-36); Thomas Williams (1936); Joseph Wedlake (1937-9); Thomas Canning (1940); James McAniff (1941); J. B. O’Connell (1942-5); Phillip Dwyer (1946-7); William Andrews (1947); Albin Kaltenbach (1947-51); George A. Anwyll (1951-9); Raymond Joyce (curad) (1951-9); John McHugh (1950-61??); Arthur Davies (1961); Seamus Cunanne (1962-99); Augustine Paikkatt (1999-2003); Jason Jones (2003–31/1/2011);

  • Eglwys y Santes Fair

Offeiriaid: 450 AD St Mathaiarn, mab Brychan; 1114; Edward y Presbyter; 1349 John de Whittle; 1411 John Barnett; 1413 Thomas Day; 1434 John Thornbury; John Frodsham; 1497 Richard Robyns; 1502 Hugh Wenty; 1524 Thomas Hore (y prior olaf); 1534 Morgan Meredith; 1553 Griffin Williams (? - 1555); 1555 Philip Howell ap Rice; 1563 Peregrine Daindle; Nicholas Harry; 1660 Gwilliomo Owens; Charles Price; 1662 Johannus Morgan; 1666 Richard Harries; 1693 David Jenkins MA; 1717 Thomas Richards MA; 1729 Jacobus Phillips BA; 1730 Jacobus Thomas; 1731 Rice neu Rees (Audelnus?Audoernis) Evans; 1737 Hugh Pugh BA; 1747 John Davies; 1748 William Powell; 1756-77 John Davies; 1778 John Evans; 1789 John Evans (yr un un mwy na thebyg); 1824-76 Griffith Thomas; 1876-1900 William Cynog Davies BD; 1900-12 David John Evans MA RD; 1912-16 David Timothy Alban BA RD; 1917-31 David Morgan Jones BA RD (Canon St Davids); 1931-51 Edward Lee Hamer BA; 1951- David Thomas Price BA; Ernest Jones; William Richards.

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aberteifi (pob oed) (4,184)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberteifi) (2,194)
  
54.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberteifi) (2938)
  
70.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Aberteifi) (972)
  
48.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Gŵyl Fawr Aberteifi[golygu | golygu cod y dudalen]

Galwyd Gŵyl Fawr Aberteifi yn wreiddiol yn Eisteddfod Gadeiriol Is-Genedlaethol Aberteifi a gynhaliwyd yn gyntaf yn 1953.[7]

Eisteddfodau[golygu | golygu cod y dudalen]

1176 Eisteddfod gyntaf
1-2 Awst 1866 Cynhaliwyd yr Eisteddfod mewn pafiliwn pren mewn cae tu ôl i Gapel Bethania. Enillodd J R Phillips wobr o £10 am sgrifennu hanes Cilgerran. Côr Felindre (Drefach), yr unig gystadleuwyr, enillodd £10 yn ‘Achub Fi, O Dduw’. Bu cystadlu rhwng Côr Brynberian ac Aberteifi am wobr o £8 am ganu ‘Blessed be Thou, Lord God of Israel’. Aberteifi enillodd. Bu'r eisteddfod yn fethiant ariannol oherwydd salwch colera yn yr ardal.
12 Mehefin 1878 Cynhaliwyd mewn pafiliwn yn dal 5,000. Y llywydd oedd T. E. Lloyd, Coedmore AS, a David Davies AS y Bwrdeistref. Y côr buddugol oedd Bargoed Teifi.
14 Gorffennaf 1880 Bell Court – tu ôl Pendre. Pafiliwn yn dal 5,000. Prif fardd oedd Thomas Davies, Llwynysgaw (Ysgawenydd).
7 Awst 1895 Pabell ym Mhontycleifion.
4 Awst 1909
7 Awst 1942: cafwyd ymweliad gan Lloyd George, Megan, D. O. Evans AS, Mrs D. O. Evans YH
Mai 1954: enillwyd y gadair gan James Nicholas.

Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gorsedd Aberteifi

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Aberteifi ym 1942 a 1976. Am wybodaeth bellach gweler:

Gefeilldref[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Christopher Winn; addasiad: Sian Osawa (2008). Wyddwn i mo hynna am Gymru. Cymdeithas Llyfrau Ceredigion
  2. Gwefan Capel Mount Zion Adalwyd 21-03-2009
  3. [1]
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r ganran hon yn seiliedig ar y nifer sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Archifau Cymru

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]