Derrick Greenslade Childs
Gwedd
| Derrick Greenslade Childs | |
|---|---|
| Ganwyd | 14 Ionawr 1918 |
| Bu farw | 18 Mawrth 1987 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | offeiriad Anglicanaidd |
| Swydd | Esgob Mynwy, Archesgob Cymru |
Roedd Derrick Greenslade Childs (1918[1] – 1987) yn Esgob Mynwy o 1972 hyd 1986 ac yn Archesgob Cymru o 1983 hyd 1986.
Bu Derrick Childs yn Brifathro Coleg y Drindod, Caerfyrddin cyn dod yn Esgob Mynwy. Dyfarnodd Prifysgol Cymru radd D.D. er anrhydedd iddo yn 1986. Ymddeolodd yn haf 1986, a bu farw o ganlyniad i ddamwain fodur yn 1987.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Joseph Whitaker: An almanack for the year of our Lord 1986
| Rhagflaenydd: Eryl Stephen Thomas |
Esgob Mynwy Awst 1972 – 1986 |
Olynydd: Royston Clifford Wright |
| Rhagflaenydd: Gwilym Owen Williams |
Archesgob Cymru 1983 – 1986 |
Olynydd: George Noakes |