Llanafan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Erthygl am y pentref yng Ngheredigion yw hon. Gweler hefyd Llanafan Fawr, Powys, ac Afan (gwahaniaethu).
Eglwys plwyf Llanafan y Trawsgoed.

Pentref bychan a phlwyf eglwysig yng ngogledd Ceredigion yw Llanafan. Gorwedd tua 9 milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth ar ffordd wledig o Gwm Ystwyth i Bontarfynach. Gelwir y pentref yn Llanafan y Trawsgoed weithiau (gweler Trawscoed).

Gorwedd y plwyf yn hen gwmwd y Creuddyn, a fu'n rhan o gantref Penweddig yn yr Oesoedd Canol. Rhed afon Ystwyth heibio i'r pentref tua hanner milltir i'r de ohono lle ceir pont dros yr afon.

Enwir y pentref a'r plwyf ar ôl Sant Afan ('Afan Buallt' neu'r 'Esgob Afan', fl. 500-542). Ceir Ffynnon Afan yn y plwyf. Mae'r eglwys yn byr hynafol ac yn cynnwys 'cangell wylo'.

Mae gan Lanafan neuadd pentref.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Trawscoed, safle caer Rufeinig a phlasdy hynafol