Afan Buallt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Erthygl am sant o Gymro yw hon. Gweler hefyd Afan (gwahaniaethu).
Eglwys Sant Afan yn Llanafan Fawr.

Sant o'r 6ed ganrif oedd Afan neu Afan Buallt neu'r Esgob Afan (fl. 500 - 542). Fe'i cysylltir â thri plwyf yn arbennig, sef Llanafan (Ceredigion), Llanafan Fawr a Llanafan Fechan (Powys). Mae'n debygol ei fod yn frodor o Geredigion. Ei ŵyl oedd y 17 Tachwedd.[1]

Yn ôl yr achau traddodiadol, roedd Afan yn fab i Gedig ap Ceredig, brenin teyrnas Ceredigion, a Tegwedd ferch Tegid Foel ac yn gefnder i Ddewi Sant. Roedd yn frawd i Ddoged ac yn un o ddisgynyddion Cunedda Wledig, sefydlydd teyrnas Gwynedd. Roedd yn berthynas i Sant Teilo hefyd, trwy ei fam.

Credir iddo fod yn drydydd abad neu 'esgob' Llanbadarn Fawr. Yn ôl traddodiad, lladdwyd Afan yn Llanafan Fawr yn y flwyddyn 542 gan griw o Wyddelod ar gyrch ym Mrycheiniog. Gelwir y ffrwd lle y'i lladdwyd yn Nant Esgob. Ceir Derwen Afan yn y plwyf hefyd.[2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. The Book of Common Prayer for Use in the Church in Wales: The New Calendar and the Collects Yr Eglwys yng Nghymru. 2003. Adalwyd Tachwedd 2014.
  2. Baring-Gould, Sabine (1907). The Lives of the British Saints: The Saints of Wales and Cornwall and such Irish Saints as have Dedications in Britain. London: Charles J. Clark, for the Honourable Society of Cymmrodorion. pp. 114–115. 
  3. Jones, Terry. "Afan". Patron Saints Index. http://www.catholic-forum.com/saints/saintaay.htm. Adalwyd 2007-12-30.
T. D. Breverton, A Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndwr, 2000).