Creuddyn (Ceredigion)
Gwedd
Math | cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Penweddig |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.372°N 3.962°W |
- Am y cwmwd yn Rhos, gogledd Cymru, gweler Creuddyn (Rhos). Gweler hefyd Creuddyn (gwahaniaethu).
Cwmwd canoloesol yng ngogledd Ceredigion rhwng afonydd Rheidol ac Ystwyth oedd y Creuddyn. Gyda chymydau Genau'r Glyn a'r Perfedd, ffurfiai gantref Penweddig.
Gorwedd y cwmwd rhwng arfordir Bae Ceredigion i'r gorllewin a bryniau Elenydd i'r dwyrain. I'r gogledd mae'n ffinio â chwmwd Perfedd gydag afon Rheidol yn dynodi rhan helaeth y ffin. I'r de ffiniai â chwmwd Mefenydd gydag afon Ystwyth yn dynodi'r ffin. I'r dwyrain roedd yn ffinio ag Arwystli ym Mhowys.
Mae rhan ddwyreiniol yn cwmwd yn ardal o fryniau. Cedwir enw'r cwmwd yn enw pentref Llanfihangel-y-Creuddyn. Roedd rhan isaf y cwmwd yn perthyn i Llanbadarn Fawr ac yn cael ei enwi'n Llanbadarn y Creuddyn mewn canlyniad.