Trefilan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Trefilan
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.194788°N 4.124305°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Elin Jones (Plaid Cymru)
AS/au Ben Lake (Plaid Cymru)

Pentref bychan gwledig yn ne canolbarth Ceredigion yw Trefilan. Mae'n gorwedd ar lan ogleddol afon Aeron tua 7 milltir i'r dwyrain o Aberaeron, ar yr hen ffordd rhwng Llanrhystud i'r gogledd a Llanbedr Pont Steffan i'r de-ddwyrain. Mae'n bosibl fod yr enw'n cysylltu gyda Sant Ilan, sefydlydd Eglwys Ilan ym Morgannwg, ond cysegrwyd yr eglwys i Sant Cyngar.

Ger ysgol y pentref (a gaewyd ym mis Gorffennaf 2014), ceir safle Castell Trefilan, castell mwnt a beili a godwyd gan dywysogion Deheubarth yn y 1230au.

Tua milltir i'r de o Drefilan ceir safle tybiedig lleiandy Sistersaidd Llanllŷr.

Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[1][2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014