Ilan

Oddi ar Wicipedia
Ilan
GanwydDe Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaTrefilan Edit this on Wikidata
Eglwys Sant Ilan, rhwng Pontypridd ac Ystrad Mynach .

Sant o dde Cymru oedd Ilan (weithiau Ylan mewn ffynonellau hynafiaethol). Ni wyddom fawr dim am ei hanes ond credir iddo fyw yn Oes y Seintiau.

Cysylltir Ilan yn bennaf â phlwyf Eglwys Ilan, rhwng Pontypridd ac Ystrad Mynach. Cyfeirir at y plwyf yn Llyfr Llandaf wrth yr enw 'Merthyr Ilan'. Yn hanesyddol roedd y plwyf yn rhan o gantref Senghennydd yn yr Oesoedd Canol. Yma bu cartref Llywelyn Bren. Dywedir bod ysbrydion wedi aflonyddu ar godwyr yr eglwys gyntaf a bu rhaid iddynt ddewis safle arall am fod y celfi a'r cerrig yn cael eu symud dros nos.

Mae lleoedd eraill sy'n dwyn ei enw yn cynnwys Trefilan, Ceredigion, a Bod Ifan, Meirionnydd. Yn Llydaw enwir castell ar ôl y sant yn Brieg a cheir Coatilan ('Coed Ilan') gerllaw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2000).