Eglwys Ilan
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerffili ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.592745°N 3.290508°W ![]() |
![]() | |
Plwyf ac aneddiad bychan yn ne Cymru yw Eglwys Ilan (weithiau Eglwys-Ilan neu Eglwysilan). Mae'n gorwedd rhwng Pontypridd ac Ystrad Mynach ac yn cael ei rannu rhwng Rhondda Cynon Taf a Chaerffili. Sancteiddiwyd yr eglwys i gofio am Sant Ilan.
Yn hanesyddol roedd y plwyf yn rhan o gantref Senghennydd yn yr Oesoedd Canol. Yma bu cartref Llywelyn Bren. Yn nes ymlaen roedd yn gorwedd yn yr hen Sir Forgannwg. Enwir y plwyf a'r hen eglwys ar ôl Sant Ilan. Dywedir bod ysbrydion wedi aflonyddu ar godwyr yr eglwys gyntaf a bu rhaid iddynt ddewis safle arall am fod y celfi a'r cerrig yn cael eu symud dros nos.
Mae'r plwyf yn cynnwys rhan o Bontypridd, pentref Senghennydd, Eglwys Ilan ei hun (dyrnaid o dai) a'r Groeswen. Mae tua 8,000 o bobl yn byw yn yr ardal heddiw.
Enwogion[golygu | golygu cod]
- William Edwards (1719 - 1789), peirianydd sifil a aned yn y plwyf
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- Menter Caerffili: Hanesyn am Eglwys Ilan Archifwyd 2007-10-13 yn y Peiriant Wayback.
- (Saesneg) Gwefan Plwyf Eglwys Ilan Archifwyd 2008-05-17 yn y Peiriant Wayback.
- (Saesneg) Vision of Britain: ffeithiau hanesyddol am y plwyf