Eglwys Ilan

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Eglwysilan)
Eglwys Ilan
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerffili Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.592745°N 3.290508°W Edit this on Wikidata
Map

Plwyf ac aneddiad bychan yn ne Cymru yw Eglwys Ilan (weithiau Eglwys-Ilan neu Eglwysilan). Mae'n gorwedd rhwng Pontypridd ac Ystrad Mynach ac yn cael ei rannu rhwng Rhondda Cynon Taf a Chaerffili. Sancteiddiwyd yr eglwys i gofio am Sant Ilan.

Yn hanesyddol roedd y plwyf yn rhan o gantref Senghennydd yn yr Oesoedd Canol. Yma bu cartref Llywelyn Bren. Yn nes ymlaen roedd yn gorwedd yn yr hen Sir Forgannwg. Enwir y plwyf a'r hen eglwys ar ôl Sant Ilan. Dywedir bod ysbrydion wedi aflonyddu ar godwyr yr eglwys gyntaf a bu rhaid iddynt ddewis safle arall am fod y celfi a'r cerrig yn cael eu symud dros nos.

Eglwys Sant Ilan, Eglwys Ilan.
Tafarn yn Eglwys Ilan.

Mae'r plwyf yn cynnwys rhan o Bontypridd, pentref Senghennydd, Eglwys Ilan ei hun (dyrnaid o dai) a'r Groeswen. Mae tua 8,000 o bobl yn byw yn yr ardal heddiw.

Enwogion[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]