Cyngar ap Geraint

Oddi ar Wicipedia
Cyngar ap Geraint
Cyngar ar ffenestr yn Eglwys Beuno Sant, Penmorfa, Eifionydd, Gwynedd. Mae fwy na thebyg mai Cyngar ap Geraint yw hwn, fodd bynnag.
Ganwyd490 Edit this on Wikidata
Gwynedd Edit this on Wikidata
Bu farw6 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl7 Tachwedd Edit this on Wikidata
Gofal! Erthygl am Gyngar o langefni yw hon; ceir Cyngar arall a fu'n sant yng Nghernyw a Llydaw.

Sant Cymreig o'r 5g oedd Cyngar ap Geraint (c.488 - c.550), a nawddsant eglwys Llangefni. Dethlir ei wylmabsant ar 7 Tachwedd.[1]

Credir iddo gael ei eni tua 490 a'i fod yn fab i'r brenin Gerren Llyngesog o Deyrnas Dyfnaint. Cysylltir ef hefyd gydag eglwysi Trefilan, Ceredigion, yr Hôb (hen enw: Llangyngar) ym Mhowys Fadog a cheir 'Ynys Gyngar' ger Cricieth (PW 63, 102, 96, WCO 203). Dywedir iddo fod yn ddisgybl i Sant Cybi, yn un o 'Deulu Cybi Sant' ac i'r ddau ohonynt deithio i Ynysoedd Arann (Gwyddeleg: Oileáin Árann, Saesneg: Aran Islands).

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  1. llgc.org.uk; A Welsh Classical Dictionary gan Peter Clement Bartrum; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.