Cyngar

Oddi ar Wicipedia
Cyngar
Cerflun o Gyngar Sant yn Congresbury yng Ngwlad yr Haf.
Ganwydc. 470 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw27 Tachwedd 520 Edit this on Wikidata
Jeriwsalem Edit this on Wikidata
Man preswylCricieth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
Swyddesgob, abad Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl7 Tachwedd Edit this on Wikidata
Gofal: erthygl ar y sant o Gernyw a Llydaw yw hon; am y Sant sy'n gysylltiedig â Llangefni, gweler Cyngar ap Geraint.

Sant Cymreig cynnar oedd Cyngar, Cumgar neu Cungar (Lladin: Concarius) a aned c. 470 ac a fu farw o bosib ar 27 Tachwedd 520. Daeth i Gymru o Wlad yr Haf (rhan o Hen Deyrnas Cernyw). Enwir 27 Tachwedd fel dydd gŵyl Cyngar Sant. Dywedir ei fod yn esgob yng Ngwlad yr Haf. Ceir pentref ger Tyddewi, Sir Benfro o'r enw Llanungar (neu Llanwngar) a chredir iddo gael ei fagu yno.

Yn y 9g nododd Asser mae ei ddydd gŵyl oedd 27 Tachwedd.[1]

Ceir dwy fersiwn o 'fuchedd' Cyngar Sant:

  1. fersiwn a gyfansoddwyd tua'r 12g yn Wells yng Ngwlad yr Haf ac a ganfudwyd yn y 1940au
  2. fersiwn ddiweddarach, sef ychwanegiad at argraffiad 1516 o Vitae SS. John o Teignmouth.

Dywedir i Gyngar Sant, wedi iddo sefydlu mynachdy ger Congresbury yng Ngwlad yr Haf, groesi i Forgannwg, lle y glaniodd ar lannau Dawan. Ym Morgannwg sefydlodd ddwy fynachlog ond ni wyddys ym mhle, a daeth Cyngar i gysylltiad â'r brenin Poulentus ac â thywysog o'r enw Pebiau. Sylwer ar y tebygrwydd yn yr enwau: 'Cwngar' ('Congar' yn Saesneg) a Congr-esbury.

Yn ôl 'buchedd' Cybi Sant roedd Cybi a Chyngar yn perthyn i'w gilydd; cyd-deithiodd Cyngar gyda Chybi — yn gyntaf i Iwerddon ac wedyn i Fôn. Dywedir iddo farw ar ei bererindod i Gaersalem, a'i gladdu yn Congresbury.

Eglwysi[golygu | golygu cod]

Cyngar yw enw nawddsant eglwys Llangefni ym Môn ac eglwys yr Hôb yn Sir Fflint, ond Cyngar arall yw hwn: Cyngar ap Geraint.

Dywedir ym Muchedd Cyngar Sant mai yr un oedd ef â Doccuinus Sant, ond mae hyn yn amheus. Anrhydeddir Cyngar Sant hefyd yng Ngwlad yr Haf, Cernyw lle ceir pentrefan St Ingunger ym mhlwyf Lanivet, ac yn Llydaw.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • The Lives of the British Saints, ii, 248-53;
  • Horstman (ed.), Nova legenda Anglie as collected by John of Tynemouth, John Capgrave, and others, and first printed, with new lives, now re-edited with fresh material from MS and printed sources by C. Horstman, 1901, i, 248-54;
  • Journal of Theological Studies, 1900 ff, xx, 97-108; xxiii, 15-22;
  • Analecta Bollandiana, xlii, 100-20;
  • Antiquity, 1945, 32-43, 85-95.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. G.H.Doble, The Saints of Cornwall, V.5.
  2. Doble, G. H. (1970) The Saints of Cornwall: part 5. Truro: Dean and Chapter; tt. 3–29