Cybi

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cybi
Eglwys Sant Beuno, St Beuno's Church, Penmorfa, Eifionydd, Gwynedd, Cymru Wales 46.JPG
Ganwyd 483 Edit this on Wikidata
Cernyw, Penmon Edit this on Wikidata
Bu farw 8 Tachwedd 0555 Edit this on Wikidata
Man preswyl Llangybi Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth offeiriad Edit this on Wikidata
Blodeuodd 550 Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl 8 Tachwedd Edit this on Wikidata
Tad Salomon of Cornwall Edit this on Wikidata
Mam Gwen ferch Cynyr Edit this on Wikidata
Erthygl am y sant yw hon. Am yr awdur Cymraeg gweler Robert Evans (Cybi).

Sant o Gymro oedd Cybi Sant, nawddsant Caergybi ar Ynys Môn. Enwir penrhyn gogledd-orllewinol Môn Ynys Gybi ar ei ôl hefyd.

Traddodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Eglwys Gybi Sant, Caergybi.

Ysgrifenwyd buchedd yn yr iaith Ladin i Gybi yn Oes y Tywysogion, ond yn anffodus llwgr iawn yw'r testun. Mae'n adrodd sut y ganwyd Cybi yng Nghernyw yn fab i Selyf ap Geraint ab Erbin. Roedd ei hendaid yn un o arwyr y Tair Rhamant felly. Ceir nifer o draddodiadau am Gybi yng Nghernyw. Aeth drosodd i Gâl i astudio ac yna aeth dros y môr eto ond i Gymru y tro yma, gan genhadu yng Ngwent. Ymddengys ei fod wedi ymweld ag Ynysoedd Aran yng ngorllewin Iwerddon yn ogystal cyn dychwelyd i Gymru eto ac ymsefydlu ym Môn lle bu farw yn ei fynachlog yng Nghaergybi.

Mae hen chwedl yn cysylltu enw Maelgwn Gwynedd â Chybi a'i gyfoeswr Seiriol (sefydlydd Priordy Penmon ar Fôn). Rhoddodd Maelgwn dir i'r ddau i sefydlu eu mynachlogydd. Ystyrid eglwysi Penmon a Chaergybi ymhlith y pwysicaf yn y gogledd am ganrifoedd gyda nifer yn pererindota iddyn nhw.

Yn ôl traddodiad llên gwerin a ysbrydolodd gerdd gan Syr John Morris-Jones, arferai 'Seiriol Wyn' a 'Chybi Felyn' gyfarfod bob wythnos yng Nghlorach yng nghanolbarth yr ynys. Lewis Morris yw'r cyntaf i sôn am hynny, yn y 18g. Gan fod Seiriol yn cerdded â'r haul ar ei gefn yno ac yn ôl arosodd ei wyneb yn wyn, ond y gwrthwyneb yn achos Cybi gan droi ei wyneb yn felyn!

Ffynnon Gybi, Llangybi.

Eglwysi[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Cybi yn nawddsant sawl eglwys yng Nghymru yn ogystal â Chaergybi ei hun: Llangybi, Eifionydd, Llangybi, Ceredigion, a Llangybi, Sir Fynwy. Yng Nghernyw mae'n nawddsant eglwysi Cubert, Cuby, Tregony a Duloe.

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd eglwys Llangybi, Eifionydd gan Sant Cybi. Mae'n adnabyddus am Ffynnon Gybi, tua 400 medr o'r eglwys, hen ganolfan bererindod leol ar un o'r llwybrau hynafol i Ynys Enlli. Ceir adfeilion hen gell feudwy yno. Roedd y ffynnon yn adnabyddus am ragweld ffyddlondeb cariadon.

Cedwir ei ŵyl ar 5 Tachwedd (neu rhwng y 6ed a'r 8fed).

Ffynhonnell[golygu | golygu cod y dudalen]

  • A.D. Carr, 'Seiriol a Chybi' yn, Bedwyr Lewis Jones (gol.), Gwŷr Môn (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1979).
  • John Morris-Jones, Caniadau (Rhydychen, 1907).