Clorach

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Clorach (Clorach Fawr) heddiw, gyda pentrefan Hebron yn y cefndir.

Plasty ym Môn yw Clorach, a fu'n gyrchfan y beirdd am ganrifoedd. Mae'r adeilad yn ffermdy heddiw, a elwir "Clorach Fawr" er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a ffermdy llai "Clorach Fach" gerllaw, ac a leolir tua milltir a hanner i'r dwyrain o bentref Llannerch-y-medd.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Clorach yn gartref i Gwilym ap Tudur ac yn gyrchfa i'r beirdd yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Roedd Gwilym yn fab i Tudur Fychan, arglwydd Penmynydd. Cofnodir iddo fod yng ngosgordd bersonol Rhisiart II, brenin Lloegr am gyfnod. Ymunodd a gwrthryfel Glyn Dŵr, ac ar ddydd Gwener y Groglith 1401 cipiodd ef a'i frawd Rhys ap Tudur gastell Conwy. Wedi i'r gwrthryfel ddirwyn i ben, rhoddwyd pardwn i Gwilym yn 1413, ond collodd lawer o'i diroedd.

Chwedl[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl traddodiad llên gwerin - a ysbrydolodd gerdd adnabyddus gan Syr John Morris-Jones[1] - arferai'r seintiau cynnar 'Seiriol Wyn' a 'Chybi Felyn' gyfarfod bob wythnos yng Nghlorach am ei fod yn union yng nghanol yr ynys. Y bardd a hynafiaethydd Lewis Morris yw'r cyntaf i sôn am hynny, yn y 18g. Gan fod Seiriol yn cerdded â'r haul ar ei gefn yno ac yn ôl arhosodd ei wyneb yn wyn, ond y gwrthwyneb yn achos Cybi gan droi ei wyneb yn felyn.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. John Morris-Jones, Caniadau (Rhydychen, 1907).
  2. A. D. Carr, 'Seiriol a Chybi' yn, Bedwyr Lewis Jones (gol.), Gwŷr Môn (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1979).
CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato