Geraint ac Enid
Enghraifft o'r canlynol | gwaith creadigol |
---|---|
Rhan o | Y Tair Rhamant |
Iaith | Cymraeg Canol |
Dyddiad cyhoeddi | c. 1150 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Chwedl Arthuraidd Gymraeg o'r Oesau Canol yw Geraint ac Enid, weithiau Geraint fab Erbin. Mae'n un o'r tair stori (rhamant) Arthuraidd a adnabyddir wrth y teitl Y Tair Rhamant. Y ddwy chwedl arall yn y Tair Rhamant yw Iarlles y Ffynnon a Peredur fab Efrawg.
Mae'r chwedl yn cyfateb i'r gerdd Ffrangeg Erec et Enide gan Chrétien de Troyes o ail hanner y 12g. Erbyn hyn cred rhai ysgolheigion fod y ddau gylch o chwedlau yn annibynnol ar ei gilydd ond bod elfennau ynddynt yn seiliedig ar waith hŷn, tra bod eraill yn nodi bod rhannau o'r chwedl yn dilyn cerdd Troyes llinell-am-linell[1]. Credir i'r chwedl Gymraeg gael ei llunio yn ail hanner y 12g.
Yn y chwedl mae Geraint yn gefnder i'r brenin Arthur. Clyw Arthur fod carw gwyn yn y goedwig, ac mae'n cychwyn allan i'w hela. Daw Gwenhwyfar, gwraig Arthur, i ddilyn yr helfa yng nghwmi Geraint, a chaiff ei sarhau gan Edern fab Nudd. Ni all Geraint ddial ei sarhad ar y pryd gan nad yw'n arfog. Dilyna ar ôl Edern i chwilio am gyfle i ddial arno. Mae'n aros mewn hen lys adfeiliedig, lle mae'n cyfarfod Enid ferch Ynywl Iarll ac yn dial ar Edern trwy ei orchfygu mewn twrnamaint. Daw ag Enid i lys Arthur, a phriodir hwy.
Yn fuan wedyn, daw negeswyr oddi wrth dad Geraint, Erbin fab Custennin, yng Nghernyw, sydd eisiau i Geraint ddychwelyd i'w helpu i amddiffyn ei deyrnas. Aiff Geraint ac Enid i lys ei dad gyda gosgordd o wŷr Arthur. Gorchfyga Geraint lawer o farchogion, ond ymhen tipyn daw i garu esmythyd ac aros adref gyda'i wraig. Yn y gwely un bore mae Enid, yn siarad a hi ei hun, yn gofidio fod Geraint wedi peidio a bod yn arwr bellach. Deffry Geraint a'i chlywed, ac mae'n mynd ag Enid allan gydag ef i chwilio am anturiaethau a'i thrin yn arw. Gorchfyga nifer o farchogion sy'n ymosod arnynt.
Cyrhaeddant i fan lle mae Arthur a'i wŷr, ac mae Geraint yn gorchfygu Cai pan gais ei orfodi i ddod at Arthur, yna'n ymladd a Gwalchmai. Yn y diwedd, cymodir Geraint ac Enid.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Testunau
[golygu | golygu cod]- Y Tair Rhamant- y testun wedi'i ddiweddaru gan Bobi Jones. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth, 1960.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Rachel Bromwich, 'Dwy chwedl a thair rhamant', yn Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol (Gwasg Gomer, 1976)
- Stephens, Meic (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 1986. ISBN 0-7083-0915-1
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Geraint a'i siorts sidan". amam.cymru. Cyrchwyd 2024-05-27.