Lleiandy Llanllŷr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lleiandy Llanllŷr
Math Lleiandy Edit this on Wikidata
Cysylltir gyda Llŷr Forwen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Cymru Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.182428°N 4.134071°W Edit this on Wikidata
Sylfaenwyd gan Llŷr Forwen Edit this on Wikidata

Lleiandy Sistersiaidd a sefydlwyd yn Nyffryn Aeron, Ceredigion, tua 1180 yw Llanllŷr. Enwir y lleiandy ar ôl y santes a adwaenir fel Llŷr Forwyn, yn hytrach na'r duw Celtaidd Llŷr: ni wyddys dim amdani ar wahân i'r ffaith ei bod yn nawddsant Llanllŷr.

Mae ei union leoliad yn ansicr. Yn y 19g, cofnodwyd gan hynafiaethwyr lleol fod bwthyn gwyngalchog ger pentref Ystrad Aeron (tua hanner ffordd rhwng Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan) yn perthyn iddo. Gorweddai felly ar lan ddeheuol afon Aeron gyferbyn â Trefilan, tua 6 milltir i'r de-ddwyrain o Aberaeron. Nid oes olion o gwbl i'w gweld yno heddiw.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd y lleiandy yng nghantref Is Aeron gan yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth tua'r flwyddyn 1180. Ymddengys fod rhai o'r lleianod o leiandy Llansantffraed-yn-Elfael (sefydliad byrhoedlog, tua 1170-1190) wedi symud yno. Roedd Llanllŷr dan oruchwyliaeth Abaty Ystrad Fflur ac ymddengys fod y mam-abaty yn edrych arno fel dim llawer mwy na graens yn perthyn i'r abaty.

Cyfeiria Gerallt Gymro ato yn 1188 fel "tŷ crefydd bychan a thlawd" yn ei lyfr Hanes y Daith Trwy Gymru. Ond noda fod 16 o leianod yn byw yno, sy'n nifer uchel am Gymru, a'u bod i gyd o dras anrhydeddus. Pan gollodd y lleiandy nawdd yr Arglwydd Rhys ar ôl ei farwolaeth collodd ran o'i dir i Abaty Ystrad Fflur. Dioddefodd yn ystod rhyfeloedd y 13g a derbynwyd iawndal o ddeugain o farciau yn 1284 i dalu am ddifrod a wnaed gan filwyr Edward I o Loegr. Erbyn 1291 mae stent yn nodi ei werth fel £7 yn unig a dim ond 1200 acer o ffermdir oedd yn perthyn iddo. Erbyn ei ddiddymu yn 1536 roedd yn werth £57.

Ffuglen[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifenodd y nofelwraig Rhiannon Davies Jones y nofel fer Lleian Llan-Llŷr (1965) am hanes dychmygol lleian yn Llanllŷr yn y 1240au. Fel gweddill ei nofelau hanes, mae'r cefndir hanesyddol a'r manylion cymdeithasol yn ffrwyth ymchwil gofalus ac mae'r nofel yn cynnig darlun diddorol o fywyd lleian ifanc o dras dywysogaidd ar gynfas ehangach gwleidyddiaeth y cyfnod.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Jane Cartwright, Y Forwyn Fair, Santesau a Lleianod (Gwasg Prifysgol Cymru, 1999)
  • Rod Cooper, Abbeys and Priories of Wales (Abertawe, 1992)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]