Dethlir Gŵyl Sant Marc ar 25 Ebrill, y dyddiad y'i laddwyd. Yn ôl traddodiad yn yr Eglwys Goptaidd sylfaenodd Marc yr eglwys yn Alecsandria, ac felly ef yw sylfaenydd Cristnogaeth yn yr Affrig. Roedd yn dwyn y teitl Esgob Alecsandria ac felly yn ragflaenydd i Babau Alecsandria, y penaethiad ar yr Eglwys Goptaidd yn yr Aifft. Ei symbol yw y llew.
Enwir nifer o eglwysi ar ôl Sant Marc; un o'r enwocaf yw Basilica San Marco, eglwys gadeiriol Fenis yn yr Eidal.
Delwedd o Marc yn Llyfr Sant Chad (Llyfr Teilo); lluniwyd yn ne Cymru yn ail hanner yr 8g
Y llew adeiniog, symbol yr Efengylydd Marc a dinas Fenis