Eglwys Sant Marc, Brithdir

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Sant Marc
Eglwys Sant Marc, Brithdir o'r de
Matheglwys Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlMarc Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1895 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBrithdir, Gwynedd, Brithdir a Llanfachreth Edit this on Wikidata
SirBrithdir a Llanfachreth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr150.2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.7487°N 3.8332°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH762184 Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïoly Mudiad Celf a Chrefft Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iMarc Edit this on Wikidata
Manylion

Saif Eglwys Sant Marc yn y Brithdir, Gwynedd – ger yr ysgol gynradd, ychydig i gyfeiriad Cadair Idris o ganol y pentref. Fe'i chofrestrwyd yn adeilad Gradd I oherwydd ei phwysigrwydd cenedlaethol o ran ei phensaerniaeth sydd yn null y Mudiad Celf a Chrefft. Erbyn hyn mae'r holl goed o'i chwmpas yn golygu nad yw'r rhan fwyaf ohoni i'w gweld o'r ffordd fawr, dim ond dwy gat a rhan o'i tho, mae hi bellach wedi'i chau.[1] Dywedir fod yr eglwys yn edrych fel pe tae wedi llithro i fyny o'r ddaear, yn hytrach nag fod wedi'i hadeiladu arni.

Cyn yr 1890au enw'r plwyf yma oedd "Brithdir and Islaw'r dref". Adeiladwyd yr eglwys pan rannwyd y plwyf yn ddwy, a hynny yn 1894. Enw'r hen eglwys, sydd bellach wedi'i dynnu i lawr oedd "Sant Paul". Cynlluniwyd yr eglwys gan Henry Wilson â chymorth Herbert Luck North, Arthur Grove a C. H. B. Quennell, rhwng 1895 a 1898. Fe'i comisiynwyd gan Mrs Louisa Tooth er cof am ei hail ŵr, y Parch. Charles Tooth (1831–94), a sefydlodd yr eglwys Anglicanaidd yn Fflorens. Cysegrwyd Eglwys Sant Marc ar 26 Ebrill 1898.

Mae'r eglwys wedi'i hadeiladu o frics, ac mae ei muriau wedi'u gorchuddio â carreg nadd leol; mae ganddo doeau llechi. Fe'i cadwyd dros y blynyddoedd fwy neu lai fel yr oedd pan gafodd ei hadeiladu a chaiff ei hystyried yn un o esiamplau gorau o'r genre yma (dull y Mudiad Celf a Chrefft). Mae bellach yng nghofal Friends of Friendless Churches ("Gyfeillion Eglwysi Di-gyfaill").[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Coflein;[dolen marw] adalwyd 24 Awst 2015
  2. (Saesneg) "Brithdir; Gwefan Friends of Friendless Churches; adalwyd 30 Mehefin 2019

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]