Cyfeillion Eglwysi Digyfaill
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Friends of Friendless Churches)
| Enghraifft o: | sefydliad elusennol |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1957 |
| Gweithwyr | 2, 4 |
| Gwefan | https://friendsoffriendlesschurches.org.uk/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/054bl4 |
Elusen gofrestredig yw Cyfeillion Eglwysi Digyfaill (Saesneg: Friends of Friendless Churches). Mae'n ymgyrchu yng Nghymru a Lloegr i achub eglwysi hanesyddol nad ydynt bellach yn cael eu defnyddio, ac sydd perygl o gael eu dymchwel, eu dadfeilio neu eu haddasu'n amhriodol. Fe'i ffurfiwyd ym 1957, ac erbyn 2019 roedd yn gyfrifol am 27 o eglwysi yng Nghymru a 26 yn Lloegr.[1]
Mae gan yr elusen rôl arbennig yng Nghymru. Ers 1999 cydnabuwyd ei fod yn cyfateb i'r Churches Conservation Trust ("Ymddiriedolaeth Cadwraeth Eglwysi") yn Lloegr. I'r perwyl hwnnw, ariennir 70% o gostau gofalu am eglwysi Anglicanaidd rhagorol yng Nghymru gan Cadw; darperir y 30% o gostau sy'n weddill gan yr Eglwys yng Nghymru.[2]
Eglwysi yng Nghymru a gedwir gan Gyfeillion Eglwysi Digyfaill
[golygu | golygu cod]Ceredigion
[golygu | golygu cod]Gwynedd
[golygu | golygu cod]- Brithdir, Eglwys Sant Marc
- Llanfaglan, Eglwys Sant Baglan
- Llanfrothen, Eglwys Sant Brothen
- Penllech, Eglwys y Santes Fair
- Penmorfa, Eglwys Sant Beuno
- Ynyscynhaearn, Eglwys Sant Cynhaiarn
Powys
[golygu | golygu cod]Sir Benfro
[golygu | golygu cod]- Y Beifil, Eglwys Sant Andreas
- Castellmartin, Eglwys San Mihangel a'r Holl Anghylion
- Eglwyswrw, Eglwys Sant Dogfael, Meline
- Hodgeston, Eglwys y plwyf
- Llandeloy, Eglwys Sant Eloi
- Maenordeifi, Hen Eglwys Dewi Sant
- Rhoscrowdder Eglwys Sant Degyman
Sir Ddinbych
[golygu | golygu cod]Sir Gaerfyrddin
[golygu | golygu cod]Sir Fynwy
[golygu | golygu cod]- Gwernesni, Eglwys San Mihangel a'r Holl Anghylion
- Llanfair Cilgedin, Eglwys y Santes Fair
- Llanfihangel Rogiet, Eglwys San Mihangel a'r Holl Anghylion
- Llangyfiw, Eglwys Dewi Sant
- Llan-gwm, Eglwys Sant Sierôm
Ynys Môn
[golygu | golygu cod]- Llanbeulan, Eglwys Sant Peulan
- Llanfigael, Eglwys Figel Sant
- Llantrisant, Hen Eglwys Sant Afran, Sant Ieuan a Sant Sannan
- Eglwys y Santes Fair, Tal-y-llyn, ger Aberffraw
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "All Churches A–Z" Archifwyd 2019-06-29 yn y Peiriant Wayback; Gwefan Friends of Friendless Churches; adalwyd 29 Mehefin 2019
- ↑ (Saesneg) "The Friends in Wales" Archifwyd 2016-11-12 yn y Peiriant Wayback; Gwefan Friends of Friendless Churches; adalwyd 29 Mehefin 2019
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol (Opsiwn Cymraeg ar gael)