Blaenpennal

Oddi ar Wicipedia
Blaenpennal
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.258846°N 4.001812°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref yng Ngheredigion yw Blaenpennal("Cymorth – Sain" ynganiad ). Safai'r pentref i'r gorllewin o'r A485 tua 15 milltir (24 kilomedr) i'r de o Aberystwyth, mae'r pentref yn rhan o blwyf Lledrod.

Lleolir Pentre Bach ym Mlaenpennal, sef safle ffilmio cyfres deledu Pentre Bach, sydd wedi ei seilio ar gymeriadau Sali Mali a'i ffrindiau.[1]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]

Mae nifer o fusnesau bach yn y pentref gan gynnwys Siop y Bont, Swyddfa Bost, cwmni bysiau a chwmni gwerthu ceir.[4] Y Barcud yw papur bro y pentref.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  1.  Cyfle i serennu gyda Sali Mali. BBC Lleol Canolbarth (2006).
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4.  Busnesau Bro251. Gwefan Plwyf Lledrod.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.