Sali Mali

Oddi ar Wicipedia
Sali Mali
Enghraifft o'r canlynolbod dynol ffuglennol, cymeriad llenyddol, cymeriad teledu Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1969 Edit this on Wikidata
Clawr Sali Mali gwreiddiol gan Rowena Wyn Jones, cyhoeddwyd yn 1969

Cymeriad plant poblogaidd Cymreig yw Sali Mali, sy'n ymddangos mewn llenyddiaeth ac ar y teledu. Crewyd hi'n wreiddiol gan Mary Vaughan Jones yn y llyfr Sali Mali a cyhoeddwyd gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion ym 1969 gyda darluniau gan Rowena Wyn Jones.[1] Ymddangosodd Sali Mali mewn nifer o lyfrau eraill gan Mary Vaughan Jones a daeth yn adnabyddus i lawer o blant ifanc sy'n dysgu darllen Cymraeg. Ers 2000 mae Sali Mali hefyd wedi dod yn boblogaidd yn rhyngwladol fel cymeriad teledu animeiddiedig, ac mae llyfrau gan awduron eraill wedi cael eu hychwanegu at y gyfres.

Dathlwyd pen-blwydd Sali Mali yn 50 oed ar 19 Mehefin 2019 gyda pharti yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin a goleuwyd y Senedd a'r Llyfrgell Genedlaethol yn oren.[2]

Llyfrau[golygu | golygu cod]

Yn dilyn marwolaeth Mary Vaughan Jones, ail-gyhoeddwyd nifer o'i llyfrau. Roedd yr hawlfraint yn perthyn i Gymdeithas Lyfrau Ceredigion hyd i'r wasg gael ei phrynnu gan Wasg Gomer yn 2009. Ysgrifennwyd nifer o storïau newydd gan Dylan Williams a darlunwyd nhw gan Simon Bradbury. Bu dadlau ynghylch un o'r llyfrau hyn, yn Rhagfyr 2007, pan gyhoeddwyd Sali Mali a'r Hwdi Chwim, yn y stori hon mae hwdi yn dwyn iPod Sali Mali. Cafodd y llyfr ei foicotio gan sawl siop a wrthododd ei werthu.[3]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfres Straeon Sali Mali[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd y gyfres hon gan Cymdeithas Lyfrau Ceredigion (2000–2003)

  • 1. Teisen i De (Siân Lewis yn seiliedig ar sgript wreiddiol Meinir Lynch)
  • 2. Traed Budr (Siân Lewis yn seiliedig ar sgript wreiddiol Meinir Lynch)
  • 3. Cwymp y Dail (Siân Lewis yn seiliedig ar sgript wreiddiol Meinir Lynch)
  • 4. Oen Bach ar Goll (Siân Lewis yn seiliedig ar sgript wreiddiol Meinir Lynch)
  • 5. Chwilio am Drysor (Siân Lewis yn seiliedig ar sgript wreiddiol Meinir Lynch)
  • 6. Y Wiwer Ddireidus (Siân Lewis yn seiliedig ar sgript wreiddiol Meinir Lynch)
  • 7. Chwarae Cuddio (Dylan Williams yn seiliedig ar sgript wreiddiol Bethan a Llinos Gwanas)
  • 8. Y Model Perffaith (Dylan Williams, 2002 yn seiliedig ar sgript wreiddiol Meinir Lynch)
  • 9. Cwlwm ar Gwlwm (Siân Lewis, 2003 yn seiliedig ar sgript wreiddiol Meinir Lynch)
  • 10. Tric Toc! (Gwen Angharad Jones, 2003 yn seiliedig ar sgript wreiddiol Meinir Lynch)
  • 11. Digon o Sioe (Dylan Williams, 2003 yn seiliedig ar sgript wreiddiol Meinir Lynch)
  • 12. Am Wyneb! (Gwen Angharad Jones yn seiliedig ar sgript wreiddiol Meinir Lynch)

Cyfres Anturiaethau Sali Mali[golygu | golygu cod]

Ysgrifennwyd y gyfres hon gan Dylan Williams, a cyhoeddwyd gan Cymdeithas Lyfrau Ceredigion (2006–8).

  • 1. Sali Mali a'r Ceffyl Gwyllt
  • 2. Sali Mali a'r Bwystfil Cudd
  • 3. Sali Mali a'r Hwdi Chwim
  • 4. Sali Mali a'r Dderwen Fawr

Cyfres deledu[golygu | golygu cod]

Animeiddio[golygu | golygu cod]

Cynhyrchwyd cyfres Sali Mali wedi ei hanimeiddio gan gwmni Siriol ar gyfer S4C yn 2000. Recordiwyd y gân thema gan Cerys Matthews, ac mae Rhys Ifans yn adrodd y stori.[4] Darlledir Sali Mali yn Saesneg ar Nickelodeon, ac mae hefyd wedi cael ei werthu i wledydd Scandinafeg.[5]

Dyma restr o'r teitlau ym Mhwyleg, Saesneg a Chymraeg. Mae rhai wedi eu seilio ar y gyfres lyfrau "Straeon Sali Mali".

Rhif Teitl Pwyleg Teitl Saesneg Teitl Cymraeg
Seria pierwsza
1 Owieczka Little Lost Lamb Oen Bach ar Goll
2 Brudne ślady Dirty Feet Traed Budron
3 Zegar Time Flies Amser Bwyd
4 Wietrzny dzień Windy Day Diwrnod Gwyntog
5 Ciasto Bake A Cake Teisen i De
6 Jesienne liście Autumn Leaves Dail yr Hydref
7 Spadające liście Falling Leaves Cwymp y Dail
8 Przyjęcie urodzinowe Stowaway Guest Gwestai Cudd
9 Wyprawa Leaving Home Gadael Cartref
10 Wielkie pranie Wash Splash Day Diwrnod Golchi
11 Poszukiwcze skarbów Digging For Treasure Chwilio am Drysor
12 Gapek mamą Mama Jackdaw Mami Jac Do
13 Raz, dwa, trzy One, Two, Three Un, Dau, Tri
14 Urodziny Gapka Happy Birthday Jackdaw Pen-blwydd Hapus Jac Do
15 Lekcja śpiewu Sing-Along-A-Sali Canu efo Sali
16 Wiewiórka Naughty Day Diwrnod Direudus
17 Śnieg Snowed In Eira Mawr
18 Wigilia Christmas Eve Noswyl Nadolig
19 Zabawy na śniegu Playing In The Snow Chwarae yn yr Eira
20 Upał Hot And Bothered Chwys Diferol
21 Wiązanie sznurowadeł All Tied Up Cwlwm Clwngwm
22 Jesteś w ukrytej kamerze He's Been Framed Seren y Sgrîn
23 Bu Boo! Bw!
24 Maski Making Masks Gwneud Mygydau
25 Dobra forma Keep Fit Cadw'n Heini
26 Muzykowanie Making Music Canu'n Iach
27 Nowy miś The New Teddy Y Tedi Newydd
28 Lepkie toffi Sticky Toffee Taffi Triog
29 Burza The Storm Y Storm
30 Nieproszony gość The Visitor Yr Ymwelydd
31 Deszczowy dzień Snap! Snap!
32 Lodowisko Have An Ice Day Hwyl ar y Rhew
33 Zawody balonowe The Balloon Race Y Ras Falŵns
34 Co rośnie w ogródku? How Does Your Garden Grow? Blodau Hardd yn yr Ardd?
35 Płacz w kominie Chimney Weep Glanhau'r Simdde
36 Snow Fun
37 Mushroom Madness Madarch Mawr!
38 Wielkanocne pisanki Easter Eggstravaganza Llanast Wyau Pasg!
39 Wyprawa na jeżyny Blackberry Belly Mwyar Digon
40 Pozowanie A Model Model Model Perffaith
41 Upalny dzień Hot Day Diwrnod Poeth
42 Say Cheese Gwena!
43 Zagubieni przyjaciele Lost Friends Ffrindiau ar Goll
44 Zabawa w chowanego Hide and Seek Chwarae Cuddio!
45 Who Ate The Lettuce? Lle Mae'r Letys?
46 Bliźniaki Twins Gefeilliaid
47 Let's Go Camping Gwersylla
48 Apsik Achoo Atishw!
49 Wiosna Spring Clean Diwrnod Glanhau
50 Karmnik Feeding The Birds Bwydo'r Adar
51 Malowanie Wet Paint Paent Gwlyb
52 Na plaży At The Seaside Ar Lan y Môr

Caffi Sali Mali a Pentre Bach[golygu | golygu cod]

Cynhyrchwyd cyfres deledu Caffi Sali Mali i blant iau gan Sianco ar gyfer S4C yn 1994. Ysgrifennwyd gan Ifana Savill,[6] gan ddefnyddio'r cymeriadau a grewyd gan Mary Vaughan Jones, gan gynnwys aderyn dof Sali Mali, Jac-do, a'i ffrind, Jac y Jwc. Yn y gyfres hon, mae Sali Mali yn rhedeg caffi ym Mhentre Bach. Mae pobl yn gwisgo siwtiau'r cymeriadau ac yn actio yn y gyfres hon. Yn dilyn hyn ar 6 Medi 2004, cynhyrchwyd cyfres newydd Pentre Bach, ac adeiladwyd pentref yn arbennig ar ei gyfer, lleolir ym Mlaenpennal, ac mae hefyd yn ganolfan ymwelwyr a gaiff ei redeg gan Ifana ac Adrian Savill.[7] Gwerthwyd yr hawliau i gyfres deledu Sali Mali i Al-Jazeera ym mis Ebrill 2006, i gael ei ddarlledu ar draws y Dwyrain Canol mewn Arabeg.[8]

Arall[golygu | golygu cod]

Mae cyfeiradau at Sali Mali mewn diwylliant poblogaidd yn ogystal, oherwydd ei dylanwad ar gynifer o bobol yn ystod eu plentyndod. Enwyd cân ar ei hôl ar ddisg bonws albwm Mwng gan y Super Furry Animals yn 2000. Mae'r Threatmantics hefyd wedi enwi sengl ar ei hôl, a ryddhawyd ym mis Awst 2007.

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Rhoddwyd rhai o'r caneuon a fu ar y rhaglen Sali Mali (S4C) ar dvd gan Sain (Recordiau):[9]

Teitl y gân Clip sain Blwyddyn cyhoeddi Rhif Catalog
'Dan ni'n Mynd i'r Dre 2001 SAIN SCD 2327
Blwyddyn Newydd Dda 2001 SAIN SCD 2327
Can Jac y Jwc 2001 SAIN SCD 2327
Can Sul y Mamau 2001 SAIN SCD 2327
Can y Bysedd Traed 2001 SAIN SCD 2327
Chwith, De, Chwith, De 2001 SAIN SCD 2327
Cyfri'r Ceiniogau 2001 SAIN SCD 2327
Dydd Gŵyl Ddewi 2001 SAIN SCD 2327
Eisteddfod yr Urdd 2001 SAIN SCD 2327
Faint o Bys sy'n y Botel 2001 SAIN SCD 2327
Ffisig Nain at yr Ig 2001 SAIN SCD 2327
Golchi 'Ngwallt 2001 SAIN SCD 2327
Jeli ar y Plat 2001 SAIN SCD 2327
Mynd am Drip 2001 SAIN SCD 2327
Nadolig Llawen 2001 SAIN SCD 2327
Troi'r Cloc 2001 SAIN SCD 2327
Y Barbeciw 2001 SAIN SCD 2327
Y Carnifal 2001 SAIN SCD 2327
Y Ffair Sborion 2001 SAIN SCD 2327
Y Llithr Sgio 2001 SAIN SCD 2327
Bwgi Bwgi'r Bwgan Brain 2003 SAIN SCD 2415
Can Mop Llwy a Sosban 2003 SAIN SCD 2415
Can y Deintydd 2003 SAIN SCD 2415
Can yr Eisteddfod 2003 SAIN SCD 2415
Car y Pry Bach Tew 2003 SAIN SCD 2415
Dwi'n dwli am fanana 2003 SAIN SCD 2415
Faint yw yr oren Sali 2003 SAIN SCD 2415
Fi yw Jaci Soch 2003 SAIN SCD 2415
Glanhau Ffenestri 2003 SAIN SCD 2415
Gwyliau Sali Mali 2003 SAIN SCD 2415
Oes gen ti gariad Jac 2003 SAIN SCD 2415
Pen 2003 SAIN SCD 2415
Sbaen yw'r lle i ni 2003 SAIN SCD 2415
Sblish, Sblash 2003 SAIN SCD 2415
Taflu Crempog 2003 SAIN SCD 2415
Tic Toc, Tic Toc 2003 SAIN SCD 2415
Y Briodas 2003 SAIN SCD 2415
Y Gwanwyn 2003 SAIN SCD 2415
Ymarfer 2003 SAIN SCD 2415
Ymarfer Corff 2003 SAIN SCD 2415

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  1. Jones, Mary Vaughan (1969). Sali Mali, Darluniau gan Rowena Wyn Jones, 1af (yn Cymraeg). ISBN 1902416589
  2. Sali Mali: Cymeriad enwog Mary Vaughan Jones yn 50 , BBC Cymru Fyw, 19 Mehefin 2019.
  3.  Sali Mali 'mugged by hoodie' row. BBC News (2007-12-20).
  4.  Cerys records animation song. BBC News (2001-12-07).
  5.  S4C set for leading role in kids’ TV. Western Mail (2008-04-23).
  6.  Sali Mali's countryside move. BBC News (203-03-14).
  7.  Cyfle i serennu gyda Sali Mali. BBC Lleol Canolbarth (2006).
  8.  David Ward (2006-04-04). Al-Jazeera to air TV series about multiracial Welsh sheep family. The Guardian.
  9. "Gwefan Sain". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-26. Cyrchwyd 2017-09-01.