Cymdeithas Lyfrau Ceredigion
Jump to navigation
Jump to search
Sefydlwyd Cymdeithas Lyfrau Ceredigion (CLC) yn 1954. Y rheolwr yw Dylan Williams. Maent yn arbenigo mewn argraffu llyfrau â diddordeb i Geredigion, a llyfrau plant yn y Gymraeg, gan gynnwys addasiadau o lyfrau mewn ieithoedd eraill a llyfrau gwreiddiol. Prynodd Cymdeithas Lyfrau Ceredigion y cwmni Welsh Teldisc Ltd, tua 1974.
Daeth Cymdeithas Lyfrau Ceredigion i ben yn 2009, pan brynwyd y wasg gan Wasg Gomer.
Gwobrau ac Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]
Gwobrau'r Diwydiant Cyhoeddi[golygu | golygu cod y dudalen]
- 2005 - Gwerthwr Gorau – Plant, Jac y Jwc ar y Fferm, Dylan Williams a Gordon Jones
- 2007 - Cynllun Clawr Gorau'r Nadolig, Hogan Mam, Babi Jam, Emily Huws
- 2007 - Dylunio a Chynhyrchu, Y Golygiadur, Rhiannon Ifans