Rhiannon Ifans

Oddi ar Wicipedia
Rhiannon Ifans
Ganwyd1954 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethacademydd, nofelydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Mae Rhiannon Ifans (ganwyd 1954) yn awdur ac ysgolhaig.

Cafodd Rhiannon ei magu ar fferm Carreg Wian ym mhlwyf Llanidan, Ynys Môn, a’i haddysgu yn Ysgol Gynradd Gaerwen ac Ysgol Gyfun Llangefni.[1]

Llenyddiaeth ganoloesol Cymraeg yw ei phrif maes ymchwil. Mae wedi cyfrannu yn helaeth i hanes canu gwerin Cymru ynghyd â bywyd a diwylliant y werin yng Nghymru.[2] Gweithiodd yn gyntaf ym maes Beirdd y Tywysogion ac yna ym maes Beirdd yr Uchelwyr. Wedi hynny treuliodd ddeuddeng mlynedd yn Gymrawd Tucker ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.[1]

Yn 1980 cyhoeddodd gyda'i gŵr, Dafydd Ifans, ddiweddariad o chwedlau'r Mabinogion. Yn 2019 cyhoeddodd Red Hearts and Roses? Welsh Valentine Songs and Poems.[3]

Enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2000 am ei chyfrol Chwedlau o’r Gwledydd Celtaidd ac am yr eildro yn 2003 am ei chyfrol Dewi Sant; cyrhaeddodd Owain Glyndŵr: Tywysog Cymru restr fer Gwobr Tir na n-Og yn 2001.[1]

Enillodd ei nofel, Ingrid, y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019. Detholwyd y gyfrol i Silff Lyfrau Cyfnewidfa Len Cymru, detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan y Gyfnewidfa ar gyfer cyfieithu dramor.[4]

Mae'n byw ers blynyddoedd lawer yn ardal Aberystwyth.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Rhiannon Ifans yn ennill y Fedal Ryddiaith | Eisteddfod Genedlaethol". eisteddfod.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-10. Cyrchwyd 2020-01-10.
  2. "Rhiannon Ifans: Bywgraffiad a Llyfryddiaeth | Y Lolfa". www.ylolfa.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-05. Cyrchwyd 2020-01-10.
  3. "www.gwales.com - 9781786833716, Red Hearts and Roses? - Welsh Valentine Songs and Poems". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-01-10.
  4. "Cyhoeddi Silff Lyfrau Hydref 2019 yn Ffair Lyfrau Frankfurt - Cyfnewidfa Lên Cymru". waleslitexchange.org. Cyrchwyd 2020-01-10.
  5. "Rhiannon Ifans yn cipio'r Fedal Ryddiaith". 2019-08-07. Cyrchwyd 2020-01-10.
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.