Ysgol Gyfun Llangefni

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ysgol Gyfun Llangefni.jpg

Ysgol uwchradd yn Llangefni, Ynys Môn, yw Ysgol Gyfun Llangefni. Cafodd yr adeilad ei adeiladu yn 1953.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae tua 670 o blant yn mynychu’r ysgol[1] a thua 50 o athrawon yn gweithio yno. Mae yna dros 30 o ystafelloedd dosbarth yn yr ysgol, gan gynnwys ystafelloedd cyfrifiaduron a’r campfeydd. Lliw’r wisg ysgol yw glas golau a glas tywyll gyda logo melyn arni, sy'n cynnwys llun llew, tarw, symbol fleur de lis a penwisg milwr. Arwyddair yr ysgol yw “Gorau Cynnydd, Cadw Moes”. Enw'r prifathro yw Mr Clive Thomas.

Mae ei chyn-ddisgyblion enwog yn cynnwys yr arlunydd Jac Jones, y tenor opera Gwyn Hughes Jones, y cyflwynydd radio a theledu Hywel Gwynfryn; actores Hollywood Naomi Watts, cerddor Pwyll ap Siôn a is-reolwr tim pel-droed Cymru Osian Roberts.

Roedd y Prif lenor Sonia Edwards yn athrawes Gymraeg yn yr ysgol.[2]

Ceir nifer o dimau chwaraeon merched a bechgyn llwyddiannus iawn yn yr ysgol. Mae gwersi ymarfer corff hwyliog ddwywaith yr wythnos i ddisgyblion cyfnod allweddol tri, ac unwaith yr wythnos i ddisgyblion cyfnod allweddol pedwar. Os yw disgyblion yn dewis astudio addysg gorfforol ar gyfer TGAU, mae pedwar gwers yr wythnos. Mae’r ysgol yn gweithio’n agos gyda chanolfan hamdden Plas Arthur, gyda’r disgyblion yn defnyddio llawer o gyfleusterau'r ganolfan ar gyfer addysg gorfforol.

Mae’r disgyblion wedi cael eu rhannu’n bedwar tŷ, Aethwy, Celyn, Menai a Mona. Yn ystod y Mabolgampau a’r Eisteddfod Ysgol, mae'r disgyblion yn eistedd yn eu tai ac yn cystadlu i wneud eu tai yn bencampwyr. Lliw tŷ Mona yw glas, Menai yn wyrdd, Aethwy yn felyn, a lliw Celyn yw coch.

Erbyn hyn prif ddisgyblion yr ysgol yw Tomos Prytherch a Leiah Williams.

Ysgolion cynradd yn nalgylch yr ysgol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ystadegau Ysgol Gyfun Llangefni".
  2.  Sonia Edwards. Y Lolfa. Adalwyd ar 13 Mehefin 2011.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Apple-book.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.