Ysgol y Graig, Llangefni

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ysgol y Graig

Ysgol gynradd yn Llangefni, Ynys Môn, yw Ysgol y Graig sy'n rhan o ddalgylch Ysgol Gyfun Llangefni.[1]

Ysgol y Graig oedd yr ysgol gyntaf a labelwyd yn "gyfeillgar i'r amgylchedd", a cafodd ei hadeiladu'n arbennig ar gyfer y pwrpas hwn. Adeiladwyd yr ysgol gan ddefnyddio pren adnewyddadwy a thô sy'n gyfeillgar ar gyfer bywyd gwyllt. Cynhyrchwyd yr ysgol 50% o'i phŵer ei hun drwy ddefnyddio tyrbin gwynt. Ym mis Rhagfyr 2009, enillodd wobr am gynaliadwyedd gan y Consortiwm o Awdurdodau Lleol yng Nghmru.[2]

Pennaeth yr ysgol yw Meinir Roberts. Mae yno dros 14 o ddosbarthiadau yn yr ysgol gan gynnwys ystafell gerdd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Apple-book.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato