Ysgol Gynradd Llanbedrgoch

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Gynradd Llanbedrgoch

Ysgol gynradd yn Llanbedrgoch, Môn, yw Ysgol Gynradd Llanbedrgoch sydd yn nalgylch Ysgol Gyfun Llangefni.

Adeiladwyd yr ysgol yn y flwyddyn 1902[1]. Roedd yr ysgol flaenorol ar safle'r ganolfan bentref Llanbedrgoch.

Yn 2019, Miss Delyth Roberts oedd y Brifathrawes ac roedd gan yr ysgol chwe aelod o staff.

Mae tua 25 o ddisgyblion yn mynd yno ac mae hi'n ysgol cyfrwng Cymraeg.

Mae coedwig fechan frodorol wedi ei phlannu ar dir yr ysgol fel rhan o waith ysgol goedwig. Mae ysgol goedwig yn digwydd unwaith y flwyddyn am hanner tymor ar y tro. Mae arbenigwr yn cynnal y sesiynau a bydd plant yr ysgol yn dysgu am fyd natur, gwneud tan, adeiladu cysgodfanau a chwarae gemau. Mae'r plant wedi adeiladu tŷ crwn allan o bren ar dir yr ysgol yn defnyddio deunyddiau naturiol. Mae gan yr ysgol ardd hefyd. Mae'r plant yn plannu llysiau a blodau. Maer plant yn cael llawer o brofiadau e.e. gwersi pêl droed gan dîm lleol, gwersi tseiniaidd , gwersi sbaeneg a chael cymryd rhan yn yr Eisteddfod. Yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2018 llwyddodd yr ysgol i ennill y 3ydd wobr yng nghystadleuaeth grwp cerddoriaeth creadigol.

Mae gan yr ysgol gyngor ysgol a chyngor 'eco' hefyd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Robinson, Jane L (1993). Benllech. bridge books. ISBN 1872424333.
Apple-book.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato