Llanddeiniol, Ceredigion

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Erthygl am bentref yng Ngheredigion yw hon. Gweler hefyd Llanddeiniol (gwahaniaethu).

Pentref bychan yng Ngheredigion yw Llanddeiniol. Fe'i lleolir yng ngorllewin canolbarth y sir tua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llanrhystud a thua 2 filltir i'r dwyrain o arfordir Bae Ceredigion, tua 6 milltir i'r de o Aberystwyth. Mae'n gorwedd ar y lôn sy'n cysylltu Llanrhystud a Llanilar.

Mae'n debyg y cafodd eglwys Llanddeiniol ei sefydlu gan Deiniol, sant Cymreig o'r 6g sy'n nawddsant dinas Bangor, Gwynedd. Mae'r eglwys bresennol yn adeilad cymharol ddiweddar.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Cyfres Crwydro Cymru, 1953), tud. 81-82.



WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.