Capel Cynon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Hen eglwys Capel Cynon

Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Capel Cynon. Mae'n gorwedd ar yr A486 rhwng Synod Inn a Ffostrasol, 8 filltir i'r de o'r Ceinewydd yng nghymuned Llandysiliogogo. Tardda Afon Cerdin yn y bryniau ger Capel Cynon.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Enwir y pentref ar ôl yr hen eglwys (capel) a gysegrir i Sant Cynon.

Dyma fro'r bardd Sarnicol. Roedd y pentref yn enwog yn y gorffennol am ei ddwy ffair flynyddol. Cynhelid y naill ar ddydd Iau y Dyrchafael a'r llall ar Ŵyl Cynon (Hydref 11). Mae gan Sarnicol ddisgrifiad cofiadwy o'r ail ffair. Tyrrai pobl iddi "o bedwar ban byd", o Geinewydd, Llandysul, Llanarth, Talgarreg, Pant-defaid, Tre-groes, a lleoedd eraill yn y cylch.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Cyfres Crwydro Cymru, 1953), tt. 91-4.


WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.