Afon Cerdin
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.058467°N 4.316206°W ![]() |
![]() | |
Afon yn ne Ceredigion yw Afon Cerdin. Mae'n llifo am tua 10 milltir o'i tharddle ger Capel Cynon i'w chymer ar Afon Teifi ger Llandysul.
Tardda'r afon yn y bryniau ger Capel Cynon, tua 290 meter i fyny.[1] Mae'n llifo i gyfeiriad y de gan fynd heibio i safle bryngaer Dinas Cerdin, a enwir ar ôl yr afon, ger Ffostrasol. Wedyn mae'n troi i gyfeiriad y de-orllewin heibio i bentref Tregroes a thrwy Fforest Cerdin i'w chymer ar Afon Teifi tua hanner milltir i'r gogledd-ddwyrain o Landysul.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Map OS 1:50,000 Taflen 145.