Ffair
Jump to navigation
Jump to search
Ffair y Victorian Extravaganza yn Llandudno.
Ers canrifoedd, mae'n arferiad ledled y byd i bobl ddod at ei gilydd mewn ffair (lluosog: ffeiriau) i fasnachu nwyddau, i arddangos neu werthu anifeiliaid, i gyflogi neu i hamddena. Erbyn heddiw, gall ffair gynnwys elfennau tebyg i sioe amaethyddol, fête, ffair reidiau, ffair fasnach, marchnad anifeiliaid, marchnad Nadolig, sioe geir, sioe flodau neu barêd.