Penuwch
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.2458°N 4.056°W ![]() |
Cod OS | SN597628 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref bychan yng nghanolbarth Ceredigion yw Penuwch. Fe'i lleolir ar bwys ffordd gefngwlad sy'n rhedeg rhwng y B4577 a'r B4342, tua 12 milltir i'r de o Aberystwyth a thua 10 milltir i'r dwyrain o Aberaeron.
Y pentrefi agosaf yw Bethania a Blaenpennal i'r gogledd a Llangeitho i'r de; gorwedd Penuwch yng nghanol y triongl a ffurfir gan y pentrefi hyn. I'r gogledd ceir llethrau'r Mynydd Bach. Llifa un o ledneintiau Afon Aeron trwy'r pentref.
Mae'r ysgol gynradd leol, Ysgol Gynradd Penuwch, yn perthyn i gylch Ysgolion Cylch Tregaron.
Ganed Thomas Huws Davies ym Mhenuwch, golygydd The Welsh Outlook a hanesydd lleol. Un o'i edmygwyr oedd T. Gwynn Jones, a ysgrifennodd deyrnged iddo ar ôl ei farwolaeth. Treuliodd T. I. Ellis lawer o amser yn y Cwrt Mawr ym Mhenuwch yn ei blentyndod; un o Benuwch oedd ei fam.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Cyfres Crwydro Cymru, 1952), tud. 57.
Aberaeron · Aberarth · Aber-banc · Aberffrwd · Abermagwr · Abermeurig · Aberporth · Aberteifi · Aberystwyth · Adpar · Alltyblaca · Betws Bledrws · Betws Ifan · Betws Leucu · Bethania · Beulah · Blaenannerch · Blaenpennal · Blaenplwyf · Blaenporth · Y Borth · Bow Street · Bronant · Bwlch-llan · Capel Bangor · Capel Cynon · Capel Dewi · Capel Seion · Caerwedros · Castellhywel · Ceinewydd · Cellan · Cilcennin · Ciliau Aeron · Clarach · Cnwch Coch · Comins Coch · Cribyn · Cross Inn (1) · Cross Inn (2) · Cwm-cou · Cwmystwyth · Cwrtnewydd · Dihewyd · Dôl-y-bont · Eglwys Fach · Felinfach · Y Ferwig · Ffair-rhos · Ffostrasol · Ffos-y-ffin · Ffwrnais · Gartheli · Goginan · Y Gors · Gwbert · Henfynyw · Henllan · Horeb · Llanafan · Llanarth · Llanbadarn Fawr · Llanbedr Pont Steffan · Llandre · Llandyfrïog · Llandysul · Llanddeiniol · Llanddewi Brefi · Llanfair Clydogau · Llanfarian · Llanfihangel y Creuddyn · Llangeitho · Llangoedmor · Llangrannog · Llangwyryfon · Llangybi · Llangynfelyn · Llangynllo · Llanilar · Llanio · Llan-non · Llanrhystud · Llansantffraid · Llanwenog · Llanwnnen · Llechryd · Lledrod · Llundain-fach · Llwyncelyn · Llwyndafydd · Llwyn-y-groes · Morfa · Mwnt · Nanternis · Penbryn · Penparc · Penrhiwllan · Penrhyn-coch · Penuwch · Pen-y-garn · Plwmp · Pontarfynach · Ponterwyd · Pontgarreg · Pontrhydfendigaid · Pontrhydygroes · Pont-Siân · Rhydlewis · Rhydowen, Ceredigion · Rhydyfelin · Rhydypennau · Salem · Sarnau · Southgate · Swyddffynnon · Synod Inn · Talgarreg · Tal-y-bont · Temple Bar · Trefenter · Tregaron · Trefilan · Tremain · Tre-saith · Tre Taliesin · Troedyraur · Ysbyty Ystwyth · Ystrad Aeron · Ystrad Meurig · Ystumtuen