David R. Edwards
David R. Edwards | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
3 Medi 1964 ![]() Aberteifi ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
cerddor, canwr ![]() |
Canwr a bardd yn enedigol o Aberteifi, Ceredigion, yw David Rupert Edwards (ganed 3 Medi 1964).[1] Daeth i'r amlwg fel arweinydd y band roc Datblygu. Yn ôl John Peel, roedd ei gyfansoddiadau gwreiddiol a chlyfar yn ddigon o reswm yn eu hunain i ddysgu'r iaith Gymraeg.[2]
Yn ogystal a Datblygu, gweithiodd David gyda Tŷ Gwydr a Llwybr Llaethog ar L.L. v T.G. MC DRE yn 1992, tua'r un adeg daeth yn athro yn ysgol uwchradd Llanfair Caereinion. Gwahanodd y band oherwydd salwch ar ôl rhyddhau eu sengl Putsch yn 1995. Anwybyddwyd ef gan y cyfryngau tan yn ddiweddar, wedi i recordiau Ankst ail-ryddhau Libertino mewn bocs-drifflig ynghyd a'u dau albym cyntaf, Wyau a Pyst.
Cyhoeddwyd hunangofiant Edwards gan Y Lolfa ym mis Hydref 2009, sef Atgofion Hen Wanc.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Cyfres y Beirdd Answyddogol: Al, Mae'n Urdd Camp, Mehefin 1992 (Y Lolfa, ISBN 9780862432706)
- Atgofion Hen Wanc], Hydref 2009 (Y Lolfa, ISBN 9781847716217)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Proffwyd heb anrhydedd; Hunangofiant athrylith amherffaith. , Daily Post, 4 Tachwedd 2009. Cyrchwyd ar 5 Gorffennaf 2016.
- ↑ (Saesneg) SCENE BUT NOT HEARD: PEELING BACK THE YEARS. Sound Nation (2004). Adalwyd ar 20 Awst 2007.