Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1942
| Enghraifft o: | un o gyfres reolaidd o wyliau |
|---|---|
| Dyddiad | 1942 |
| Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
| Lleoliad | Aberteifi |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Dynodwyr | |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1942 yn Aberteifi, Sir Ceredigion. Y bwriad gwreiddiol oedd ei chynnal yng Nghaerfyrddin, ond bu raid ei symud oherwydd yr Ail Ryfel Byd.
| Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
|---|---|---|---|
| Y Gadair | Rhyfel neu Creiddylad | - | Neb yn deilwng |
| Y Goron* | Ebargofiant | "Aneirin" | Herman Jones |
| Y Fedal Ryddiaith | Neb yn deilwng | ||
| Y Ddrama Hir | - | - | Neb yn deilwng |
* Yn y Cyfansoddiadau a'r Beirniadaethau, nodwyd nad oedd yr Athro W. J. Gruffydd yn cytuno â'i gyd-feirniaid [E. Prosser Rhys a Cynan] dros ddyfarnu'r Goron i "Aneirin". Ni chynhwyswyd ei feirniadaeth yn y gyfrol "oherwydd gwaeledd" ond "dywaid mewn llythyr ei fod "yn ddi-sigl o'r farn (a) nad Aneirin yw'r gorau, (b) nad oes neb yn haeddu'r goron"". Barn "y mwyafrif" felly oedd Coroni Herman Jones.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Nodwyd yn yr Herald Cymraeg [10 Awst 1942] mai dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod "yn ei ffurf a'i dull diweddar gael ei chynnal yn Aberteifi, ond yno y cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf erioed ag y mae hanes gweddol sicr amdani, a chynhaliwyd honno mor bell yn ôl a 1176."[2]
Nodwyd mai dim ond "Neuadd" i "rhyw 700" oedd y Pafiliwn, lle, cyn y rhyfel, byddai'r Pafiliwn yn dal "15,000 o eisteddfodwyr".[2] Crwys oedd yr Archdderwydd.
Yn ôl yr Aelod Seneddol Owen Evans, credodd rhai pobol na ddylid cynnal yr Eisteddfod "mewn amseroedd anodd fel y presennol, sydd yn llawn o ofnau a phryderon i bawb". Ychwanegodd mai, "Pobl y tywydd teg oedd y rheini. Yr oedd pobl Aberteifi a'i morwyr yn gwybod beth oedd tywydd garw hefyd."[2]
Anerchwyd y dyrfa "mawr a brwdfrydig" yn ystod Seremoni Y Cadeirio gan David Lloyd George oedd yn falch iawn o weld cyn gymaint yno, "er gwaethaf trybestod y rhyfel". Canmolodd y nifer oedd wedi cystadlu. Soniodd am y bardd Wordsworth gan ddweud mai yn ystod "y rhyfel Napoleoniadd" y canodd "bardd mwyaf Prydain, sonedau am brydferthwch anian."[2]
Yn yr Eisteddfod hon y dyfarnwyd Y Fedal Ryddiaith o'r flwyddyn flaenorol [1941] i Gwilym R. Jones "am y cynnyrch llenyddol gorau" o Eisteddfod Genedlaethol 1941.[2]
Bu "beirniadu llym" yng nghyfarfod Undeb Prifysgol Cymru ar y nofel How Green Was My Valley gyda Dr Rowland Williams, Glyn Derwen yn datgan mai "llyfrau wedi eu sgrifennu i gyfarfod a galwad arbennig" oedd llyfrau Richard Llewellyn a dramâu Emlyn Williams a Caradoc Evans. "Nid oedd ef yn adnabod Cymru yn y nofel dan sylw", ychwanegodd.[2]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi a'r Cylch 1976 – achlysur arall pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Aberystwyth